Mae’r Ysbryd Glân, y grym wnaeth greu’r Eglwys Fore, yn dal ar waith yn y byd heddiw, meddai’r Parchg Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei neges ar gyfer y Sulgwyn. 

 

“Er fod yr eglwys Gristnogol ar drai, mae Ysbryd Duw yn dal i fod yn bresennol mewn pob gweithred o faddeuant ac aberth, o garedigrwydd a chariad at eraill. Fe brofwyd hyn yn ddiweddar mewn ymateb pobl yn cyfrannau arian ac yn agor eu drysau i dderbyn ffoaduriaid o Wcrain.  

 

“Fel Cristnogion, rydym yn cydnabod mai Duw yw awdur pob awydd i helpu cyd-ddyn, ond mae eraill, er nad ydynt yn credu mewn bodolaeth duwdod, yn gwneud gwaith ac yn arddel agweddau sy'n unol â dymuniad y Duw a ddaeth i’r byd yn Iesu Grist.   

 

“Dywedodd Iesu bod yr Ysbryd fel gwynt sy’n chwythu lle y myn, felly ni wyddom ni sut na lle y bydd yn mynd â ni, na pha ffurf fydd ar berthynas pobl gyda Duw yn y dyfodol. Yr unig beth allwn ddweud i sicrwydd yw bod yr Ysbryd Glân yn mynd i barhau i weithio’n rymus, a hynny trwy bobl, er lles dynoliaeth tan ddiwedd amser."

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.