Cwrdd Chwarter y Gwanwyn

Mynychodd aelodau naw o eglwysi’r Cyfundeb Gwrdd Chwarter cyntaf 2023 dan gadeiryddiaeth Dr Hefin Jones yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd nos Fercher 22 Mawrth. Gwenda Lewis ac Arfon Jones o eglwys Ebeneser, Caerdydd oedd yng ngofal y defosiwn agoriadol ac offrymwyd y weddi goffa gan y Parchedig Owain Llŷr. Wedi i’r cadeirydd ddiolch i eglwys Ebeneser am y defosiwn ac am y lluniaeth a baratowyd, aed ymlaen i drafod materion busnes y Cyfundeb; cyn gwneud hynny, fodd bynnag, manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch i’r gweithgor fu yng ngofal trefniadau CyfUNdeb, sef Sul y Cyfundeb arbrofol a hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach yn y mis. 

Adroddiad yr ysgrifennydd

Cyflwynodd yr ysgrifennydd adroddiad o’r prif faterion a drafodwyd yng nghyfarfod y pwyllgor gwaith ym mis Chwefror, gan gynnwys rhaglen y Cyfundeb am y flwyddyn, ac argymhellion panel y Gronfa Nawdd ar geisiadau am nawdd a dderbyniwyd oddi wrth dair o’r eglwysi. Rhoddodd adroddiad hefyd o’r sefyllfa ariannol, diweddariad o ymgeisyddiaeth Sian Meinir i gael ei chydnabod fel gweinidog cynorthwyol i’r Undeb, ac adroddiad ar yr ymgyrch Eglwysi Dementia-gyfeillgar. Eitem olaf yr adroddiad oedd cyflwyno argymhelliad y pwyllgor gwaith i enwebu’r Parchedig Owain Llŷr Evans fel Darpar Lywydd yr Undeb. Derbyniwyd yr adroddiad yn unfrydol, ynghyd â’r argymhelliad i gefnogi enwebiad Owain Llŷr fel Darpar Lywydd. 

Y Gymraeg a Chyfrifiad 2021

Neilltuwyd gweddill y Cwrdd Chwarter i dderbyn dau gyflwyniad ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021, y naill ar sefyllfa’r iaith Gymraeg a’r llall ar ganlyniadau crefydd y Cymry. Cyflwynodd Manon Wynn Davies, Ymchwilydd y Comisiynydd Iaith, brif ganlyniadau’r cyfrifiad ar y Gymraeg. Wrth gydnabod y teimlad o siom bod lleihad pellach yn nifer a chanran y siaradwyr ar draws Cymru ers cyfrifiad 2011, ymateb y Comisiynydd Iaith yw nad oes angen anobeithio’n llwyr ynghylch y dyfodol. Eisoes mae nifer dda o ddatblygiadau gwych ar droed sy’n cynnig amodau ffafriol i hyrwyddo’r iaith, ond nid ydynt yn ddigonol ynddynt eu hunain; oherwydd hynny mae’n bwysig defnyddio’r canlyniadau fel ysgogiad i annog mwy o ymdrech i gefnogi’r iaith. Bydd cyflwyno mesur addysg Gymraeg hefyd yn sicr o roi hwb pellach i’r ymdrechion hyn. Dangosodd nad oedd pob rhan o Gymru wedi profi cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg gan fod pocedi lleol yng Nghaerdydd, er enghraifft, wedi gweld cynnydd calonogol iawn dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Tranc Cristnogaeth?

Pan ddaeth canlyniadau cychwynnol cyflwr crefydd a ffydd y Cymry yng Nghyfrifiad 2021 i olau dydd, fe arweiniodd at gyfres o benawdau’n proffwydo tranc ein hetifeddiaeth Gristnogol. Yr hyn a barodd gryn sioc i lawer oedd deall mai yng Nghymru’n unig, o blith gwledydd y Deyrnas Gyfunol, mae canran uwch o’r boblogaeth bellach yn eu disgrifio’u hunain fel personau digrefydd, a bod gostyngiad o 14% dros ddeng mlynedd ymhlith y rhai oedd yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion. Dadlennol, felly, oedd gwrando ar ddehongliad treiddgar Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, o arwyddocâd data’r cyfrifiad. Ar ôl iddo gnoi cil dros yr ystadegau cyfaddefodd nad oedd y ffigurau hyn wedi ei synnu o gwbl, gan fod y niferoedd yng nghyfrifiad 2011 yn afrealistig o uchel tra bod yr atebion yn 2021 yn llawer mwy gonest.

Theos

Yn ail hanner ei gyflwyniad canolbwyntiodd ar ganfyddiadau gwaith ymchwil pellach a gynhaliwyd yn sgil y cyfrifiad gan y felin drafod Theos a holodd beth a olygai’r atebwyr wrth eu disgrifio’u hunain fel personau digrefydd. Prif gasgliad Theos oedd bod tair prif garfan, gyda phob un yn cynrychioli tua thraean o’r sampl a ddefnyddiwyd ganddynt, sef:

A. Rhai sy’n anffyddwyr rhonc ac yn elyniaethus i grefydd; 

B. Rhai nad ydynt yn gredinwyr eu hunain ond yn gweld eglwysi a chapeli’n gwneud gwaith da o fewn y gymuned;

C. Rhai sy’n dweud eu bod nhw’n credu ond ddim yn arddel perthynas gyda chrefydd gyfundrefnol.

Gan fod dwy ran o dair o’r rhai ‘digrefydd’ hyn yn perthyn naill ai i garfan B neu C, teimla Gethin Rhys nad yw canlyniadau’r cyfrifiad mor anobeithiol ag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Cnoi cil pellach

Casgliad y ddau siaradwr fel ei gilydd, felly, oedd fod llawer o waith i’w wneud eto i gryfhau’r iaith a’r ffydd Gristnogol yng Nghymru, ond nad yw’r sefyllfa mor ddigalon â’r hyn a awgrymir wrth edrych ar yr ystadegau moel yn unig. Tynnodd y ddau sylw hefyd at y ffaith nad yw holl ganlyniadau’r cyfrifiad wedi eu cyhoeddi eto ac felly does dim modd croesgyfeirio, er enghraifft, rhwng ystadegau’r iaith a chrefydd. Bydd yn ddiddorol cael gwybod a yw’r Cymry Cymraeg yn debycach o fod yn fwy crefyddol na’r Cymry di-Gymraeg. Roedd pawb yn gytûn ein bod wedi derbyn cyfraniadau diddorol a gwerthfawr, fydd yn sbardun dros ymateb yn fwy cadarnhaol i’r ddau gyfrifiad.

 

Gwilym Huws, 

Ysgrifennydd Cyfundeb Dwyrain Morgannwg

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.