Yr arwr bytholwyrdd Dafydd Iwan a chorau lleol fu’n diddanu’r gynulleidfa niferus mewn cyngerdd yng Nghapel y Wig, Blaencelyn, Ceredigion ganol mis Medi. Diben y cyngerdd oedd codi arian tuag at gynnal a chadw adeiladau’r Achos. Llywyddwyd y noson gan y gweinidog, y Parchg Carys Ann.

 

Er bod ganddo gysylltiadau teuluol hynod agos â’r capel a’r fro hon, a’i fod wedi pregethu yn y capel yn y gorffennol, dyma oedd y tro cyntaf i Dafydd Iwan ganu yn yr addoldy hwn. Cyn dechrau’r cyngerdd, bu’n ffilmio yn y fro ar gyfer rhaglen ddogfen sy’n dilyn ei hynt o gwmpas Cymru a gaiff ei darlledu yn ystod yr hydref hwn. Bu’r cwmni teledu yn ei ffilmio yn ystod y cyngerdd hefyd gan ddal cyffro’r noson ar gof a chadw. Yn gynt yn yr wythnos, bu’n cyfansoddi cân gyda disgyblion rhai o ysgolion Sir Gâr. Canodd nifer o ganeuon o wahanol gyfnodau yn ystod ei yrfa gan egluro arwyddocâd a chyd-destun y geiriau. Cyfansoddodd Jon Meirion englyn ar gyfer yr achlysur:

 

Deil wefr o’r adail hyfryd, – yma’r hedd

A’r ymroddiad diwyd;

a’i foliant yn gafaelyd –

     y mae hwyl – YMA O HYD.

Côr ysgol yn cydganu â Dafydd

Y côr lleol cyntaf i ganu oedd Côr Ysgol Gynradd T. Llew Jones dan arweiniad Mrs Rhian Lloyd gyda Mrs Delyth Griffiths yn cyfeilio. Canodd y plant ddwy gân wrth eu hunain cyn ymuno â Dafydd Iwan i gydganu’r gân ‘Mam wnaeth got i mi’. Yr oedd sain heintus a byrlymus y plant yn hyfryd a gwerthfawrogwyd eu cyfraniad yn fawr gan y gynulleidfa. Nid dyma oedd y tro cyntaf i’r ysgol gydganu gyda Dafydd Iwan am ei bod wedi bod yn rhan o weithgarwch daucanmlwyddiant Capel y Wig, gyda Dafydd yn bregethwr gwadd. Y mae hon yn flwyddyn fawr i’r ysgol am ei bod yn dathlu carreg filltir yn ddeng mlwydd oed. Cafwyd noson agored yno’n ddiweddar a dymunwn y gorau i’r ysgol yn y dyfodol.

Côr buddugol y Genedlaethol

Yr ail gôr i berfformio yn y cyngerdd oedd côr meibion Ar Ȏl Tri dan arweiniad Mr Emyr Davies a chyfeiliant Mrs Meinir Parry. Llongyfarchwyd y côr yn galonnog ar lwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni wrth iddynt ennill prif gystadleuaeth gorawl y corau meibion. O’r nodyn cyntaf oll, cafwyd canu grymus, deallus a disgybledig gyda’r gynulleidfa yn llwyr werthfawrogol o’u sain a’u dehongliad. Mae hon yn sain gyfoethog sydd wedi’i meithrin dros gyfnod o flynyddoedd sydd yn teilyngu ein hedmygedd a’n gwerthfawrogiad. Gorffennwyd rhaglen y côr yn briodol gyda threfniant poblogaidd Caradog Williams o eiriau Saunders Lewis ‘Gwinllan a Roddwyd’ gydag angerdd y canu yn adleisio trwy’r capel.

Adfer hen gyfeillgarwch

Yn ystod yr egwyl, cafwyd anerchiad pwrpasol a diddorol gan gadeirydd y noson sef Mrs Hilary Williams o Benarth, gynt o Arnant ym phentre bach Penbontrhydyfoethau. Mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith a chafwyd crynodeb o’i gwaith a’i harbenigedd yn ei maes. Teg yw dweud bod achlysur o’r math hwn yn aml yn fodd i adfer hen gyfeillgarwch a chafwyd llawer i sgwrs ddiddan ymhlith cyfeillion oes ar ddiwedd y cyngerdd. Gwerthfawrogwn yn fawr gyfraniad hael ein cadeirydd tuag at goffrau’r achos. Mae hi wedi bod yn gyfaill cyson a ffyddlon i’r capel dros y blynyddoedd ac yn barod iawn ei chymwynas a’i chefnogaeth unrhyw adeg.

Lluniaeth a diolch

Ar ddiwedd y noson, cafwyd lluniaeth a the yn y festri dan ofal Mair ac Orwig Davies a gweddill aelodau’r capel. Diolchwn i bawb a fu yn rhan o’r paratoadau hynny. Yn wir, does dim gwell ffordd o roi’r byd yn ei le a hel atgofion na thros ddisgled o de. Dymuna’r gweinidog ynghyd â swyddogion ac aelodau’r capel ddiolch o waelod calon i bawb a gefnogodd y noson lwyddiannus hon ym mhob ffordd bosibl. Mae sawl ffordd o fesur llwyddiant a bu’r cyngerdd hwn yn llwyddiant aruthrol mewn mwy nag un ffordd wrth i’r gymuned ddod at ei gilydd er mwyn atgyfnerthu’r gymdeithas. Mae hi’n frwydr gyson i gynnal a chadw adeiladau unrhyw gapel ond teimlwn ein bod, yng Nghapel y Wig, dipyn yn nes at y lan erbyn hyn er mwyn cael y maen i’r wal. DIOLCH O GALON I BAWB.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.