Mae’r argyfwng Covid wedi ysgwyd eglwysi allan o’u cyflwr cysurus, a thrwy eu gorfodi i gofleidio ffyrdd newydd o ymarfer eu ffydd, fe allai arbed llawer o achosion rhag dirywiad araf a therfynol, meddai arweinydd Cristnogol Cymreig yn ei neges Flwyddyn Newydd.

Wrth i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg baratoi i ddathlu ei ben-blwydd yn 150 oed yn 2022, y ddwy flynedd ddiwethaf fu’r rhai mwyaf heriol yn ei hanes, meddai’r Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
“Am y tro cyntaf yn ein hanes, roedd capeli ar gau neu’n gweithredu mewn modd cyfyngedig am gyfnodau hir; y cysylltiad rhwng adeiladau a’u cynulleidfaoedd wedi’i dorri.
“Ond mae’r ffordd yr ymatebodd nifer o weinidogion a chynulleidfaoedd i’r her, drwy ddefnyddio Zoom i gynnal gwasanaethau rhithiol a llwyfannau digidol i hybu’r Efengyl, wedi creu deinamig newydd ac wedi adfywio sawl eglwys. Cawsom ein hatgoffa mai cymuned o gredinwyr yw’r eglwys, nid adeilad.
“Yn lle cynulleidfa o rai dwsinau neu lai ar fore Sul, gall gwasanaeth Cymraeg a baratowyd gan eglwys unigol ddenu dros 500 o wylwyr ar YouTube. Roedd darpariaeth ysbrydol o’r fath yn hynod werthfawr yn ystod y cyfnodau clo, ond mae’n parhau i fod yn boblogaidd iawn ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio.
“Mae’r Undeb yn gwahodd y cannoedd o eglwysi sy’n perthyn iddo i wneud cais, drwy’r cynllun Arloesi a Buddsoddi, am grantiau sylweddol, i fuddsoddi mewn prosiectau arloesol a all gynnwys adeiladu presenoldeb cryfach ar y rhyngrwyd, ochr yn ochr â phrosiectau sy’n galluogi cynulleidfaoedd i fynd ati o’r newydd i ddyfeisio ffyrdd o wneud mwy o ddefnydd cymunedol o adeilad capel, tra’i fod yn parhau i fod yn addoldy.
“Does dim dwywaith y bydd 2022 yn flwyddyn dyngedfennol i’n heglwysi. I rai, efallai mai argyfwng y pandemig fydd yr hoelen olaf sy’n arwain at gau’r achos, ond i eraill bydd yn ddechrau cyfnod newydd lle maent yn cofleidio ffyrdd ffres a chyffrous o ymarfer y ffydd Gristnogol ymhlith y gynulleidfa ac yn y gymuned.”