Y mae gennym newyddion llawen i’w rannu gyda chi.
Y mae’r Undeb wedi penodi aelod newydd o staff i ymgymryd â dyletswyddau’r Swyddog Cyhoeddiadau yn Nhŷ John Penri. Rydym ni’n falch o gyhoeddi y bydd Margaret Hughes o Gaerdydd yn camu i’r swydd ar gychwyn mis Medi.
Daw Margaret yn wreiddiol o Ffair Rhos, Ceredigion a mynychodd ysgol uwchradd Tregaron. Cafodd ei haddysg brifysgol yn Aberystwyth ble derbyniodd radd yn y Gymraeg, enillodd radd M.Phil. yn y Gymraeg yno hefyd.
Dros y blynyddoedd gweithiodd Margaret mewn sawl sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, a threuliodd y rhan helaeth o’i gyrfa’n gweithio gyda S4C ar yr ochr fusnes a chyllid. Mae ganddi brofiad o reoli prosiectau a gweithio mewn timau gweinyddol, gweithiodd hefyd fel cyfieithydd a golygydd. Yn fwyaf diweddar bu Margaret yn gweithio i’r Eglwys yng Nghymru fel Swyddog Ymddiriedolaethau ac Elusennau.
Wrth dderbyn y swydd meddai Margaret: ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio ar yr amrywiaeth o brosiectau sydd ar y gweill gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, at gydweithio â’r staff a’r gymuned ehangach er mwyn eu cyflawni.’
Edrychwn ymlaen at groesawu Margaret i’n plith ym mis Medi.