Addoldy’r Annibynwyr yn Hendy-gwyn oedd capel bychan Soar a saif ar gyrion y dref ac mae achos yr Annibynwyr yn dyddio yn ôl i 1855.

Oherwydd dyfodiad y rheilffordd, datblygodd tref Hendy-gwyn yn gyflym iawn. Teimlodd yr aelodau yn Soar fod angen addoldy llawer mwy o faint, ac un a fyddai ynghanol bwrlwm y dref. Cafwyd safle addas yn y dref ac adeiladwyd y Tabernacl ym 1873 a’i agor yn 1874. Adeilad urddasol iawn oedd hwn â lle i 650, er mai 120 o aelodau oedd ar y pryd. Roedd y gost yn £1,600, ond fe gliriwyd y cyfan o fewn pedair blynedd.

Y Parchg William Thomas oedd y gweinidog cyntaf, gan weinidogaethu’n gyntaf ar eglwysi Soar a Bethel Llanddewi, ac yna’r Tabernacl, am gyfanswm o hanner cant a thair o flynyddoedd.

Fe’i olynwyd gan y Parchg Gwilym Higgs, a fu’n driw i’r ofalaeth am dros ddeugain mlynedd gan ymddeol ym 1949. Sefydlwyd y Parchg Huw Francis yn weinidog yn eglwys y Tabernacl, ynghŷd â Bethel Llanddewi, ym mis Hydref 1950. Bu yma’n weinidog yr efengyl a bugail ffyddlon am 29 o flynyddoedd.

Ym mis Medi 1981 unodd eglwys Trinity Llanboidy â’r ofalaeth ac ordeiniwyd y Parchg Tom Defis i weinidogaethu yn y cylch. Yna, rhwng 1995 a 1999 bu’r Parchg Llewelyn Picton Jones yn weinidog ar y tair eglwys. Ym mis Gorffennaf 2002 sefydlwyd y Parchg Jill-Hailey Harries, merch o Landysilio yn weinidog ar yr ofalaeth. Ar hyn o bryd, ein gweinidog yw’r Parchg Guto Llywelyn a sefydlwyd ym mis Mai 2013.

Fel pob man arall, mae’r aelodaeth yn gostwng ac rydym yn 115 o aelodau ar hyn o bryd, sy’n agos iawn i rif yr aelodaeth ’nôl yn 1874. Er hyn, rydym yn parhau’n eglwys fywiog a chyfeillgar. Mae gennym tua 20 o blant ac ieuenctid yn yr ysgol Sul a’r clwb ieuenctid ac maent yn ffyddlon iawn. Yn ogystal â hyn, mae’r Gymdeithas Ddiwylliannol yn cyfarfod yn fisol ac yn weithgar iawn. Mae hefyd gennym Grŵp Darllen y Beibl ar gyfer aelodau’r ofalaeth a chyfeillion sydd yn denu tua phymtheg o bobl.

Gosodwyd sgriniau teledu yn y capel yn 2018 ac yn 2019 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf erioed ar hanes capel y Tabernacl gan yr awdur a’r hanesydd, Denley Owen, Llanymddyfri.

Fel gyda phawb arall mae Covid wedi cael effaith fawr arnom. Bu’r capel ar gau am fisoedd a hynny am y tro cyntaf erioed. Fe wnaethom ailddechrau pan roedd hawl gwneud hynny gan geisio parhau gyda’r addoliad a chymryd pob gofal posibl yr un pryd. Rydym yn ceisio addasu i’r cyfnod newydd heriol yma ac wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Ar gychwyn blwyddyn newydd, sef 2022, rydym ni – fel y canodd Dafydd Iwan – ‘Yma o Hyd’!

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.