Ddiwedd mis Hydref 2022 lansiwyd cyfres o bodlediadau digidol newydd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel rhan o adnoddau’r genhadaeth ddigidol yn sgil derbyn nawdd gan CWM.

Enw’r podlediadau yw Y Cwmni Bach, a’r syniad y tu ôl i’r gyfres yw ei fod yn gyfle i gynnal sgwrs gyda gwestai er mwyn clywed eu hanes, rhannu profiadau a sôn am y byd a’i bethau.

Cychwynnwyd ar y gyfres hon gyda chyfweliad rhwng Elinor Wyn Reynolds ac Emlyn Davies Pentyrch. Ac mi gafwyd amser hwyliog a difyr yng nghwmni Emlyn. Rhannodd straeon am ei febyd, y dylanwadau fu arno a phob math o bethau eraill yn ogystal, ac roedd digon o sbort i’w gael hefyd.

Bydd y podlediadau hyn yn ymddangos yn fisol ar wefan yr Undeb dros y ddwy flynedd nesaf, maent yn gyfle gwych i ni gael dod i nabod unigolion o bob cwr o Gymru (a thu hwnt). Mae’r podlediadau i’w cael ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, i’w gwylio yn ogystal ag i wrando arnynt. Maent ar gael hefyd ar lwyfannau digidol eraill, sef: Spotify ac iTunes.

Ond, nid dim ond adnodd i wrando arno yn eich cartref eich hun yw Y Cwmni Bach, gallwch eu gwylio neu wrando arnynt yng nghwmni eraill mewn cymdeithas, neu hyd yn oed eu defnyddio yn hytrach nag oedfa ar y Sul. Yn sicr bydd digon o bethau i gnoi cil arnynt yn deillio o wrando ar Y Cwmni Bach.

Gobeithio’n wir y gwnewch chi fwynhau’r Cwmni Bach.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.