Un o nodweddion rheolaidd Y Tyst ar hyn o bryd yw'r golofn Geir-iau, gyda chyfraniad gan un o ddarllenwyr ifanc y papur.  Dyma erthygl gan Gwennan Evans o Gynwyl Elfed ar y testun 'Argraff'.

Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae yna nifer o unigolion sy’n creu argraff. Boed yn seleb ar y cyfryngau cymdeithasol, yn arweinydd byd neu’n rhywun awdurdodol yn ein cymdeithas. Gall yr argraff y mae rhywun yn ei adael arnom fod yn rhywbeth negyddol neu gadarnhaol; dyw’r argraff ddim wastad yn rhywbeth ry’m ni am ei gofio.

Gadael ôl

Serch hyn, mae’r argraff sy’n cael ei adael arnom am bobol ry’m ni wedi’u cyfarfod neu ddarllen amdanynt yn rhywbeth sydd yn gadael hôl parhaol – a hynny’n aml heb i’r person sydd wedi effeithio arnoch wybod hynny. Oedd athro neu athrawes yn eich bywydau chi wedi gadael hôl arnoch? Neu aelod o’r teulu, ffrind neu rywun arall y daethoch ar eu traws?

 

Miss Jones

I fi, dim ond un athrawes sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf. Er i mi gael nifer helaeth o athrawon arbennig yn ystod fy addysg, dim ond un sy’n sefyll allan i mi, sef Miss Jones. Miss Jones o’dd un o’m hathrawon cynta i’n yr ysgol fach. Ro’n i’n mynychu ysgol fach yng nghefn gwlad Sir Gâr, felly fe ddysgodd Miss Jones fi trwy gydol fy nghyfnod yn yr adran fabanod, ac ro’n i mor falch pan na’th hi symud gyda ni i’n dysgu yn yr adran iau hefyd. Yr hyn sy’n sefyll allan i fi yw cymaint dwi’n ei gofio o’i gwersi. Sai’n siŵr shwt, ond rwy’n dal i gofio pob pregeth, pob clod, pob maldodyn bach ges i gyda hi. Fi’n cofio sŵn y chwiban o’dd gyda hi, y myg bach daffodils a’r sbectol sbesial o’dd yn tywyllu’n awtomatig wrth gwrdd â golau llachar. Pob manylyn bach – fi’n dal i’w cofio nhw. Sai’n siŵr shwt o’dd hi’n neud e, ond o’dd ffordd i ga’l gyda Miss Jones trw’r amser, ac ro’n i’n ei hedmygu hi bryd hynny cymaint â dwi’n ei hedmygu hi nawr.

Athro

Athro oedd Iesu yn y bôn hefyd. Treuliodd e dair blynedd yn addysgu’i ddisgyblion er mwyn iddyn nhw fynd mas i’r byd a sefydlu’r Eglwys Fore. Rhannu ei neges am ffordd Dduw a’r cariad di-ben-draw oedd gan Dduw i’r byd trwy aberth Iesu. Ro’dd rhaid bod gan Iesu ffordd arbennig hefyd a oedd yn creu argraff. Drychwch ar y modd y daeth ei ddisgyblion ato ar amrantiad gan adael eu gwaith a’i ddilyn Ef. Drychwch ar Seimon Pedr, Iago ac Ioan – fe adawon nhw’r rhwydau a’r cychod yn y man er mwyn dilyn Iesu. Ie, Iesu yw mab Duw, ond roedd yn rhaid bod ganddo ffordd arbennig iawn o ddenu’r tyrfaoedd a’i ddilynwyr. Sgan i shwt lais o’dd dag e? Neu shwt gerddediad oedd gyda fe? O’dd e’n ddu, yn wyn, yn Asiaidd? Ond rhaid cofio mai ond deuddeg disgybl oedd gydag Iesu. Deuddeg apostol a oedd yn mynd i gario mlaen gyda’r gwaith o addysgu. Dyw e ddim yn lot fowr wrth feddwl bod angen iddyn nhw ledaenu’r Gair ar draws y byd! Ond y busnes argraff ’ma, dyna oedd yn cyfri. Roedd siŵr o fod ffordd arbennig gyda nhw o gael eu cofio a chael eu hadnabod gan y bobol.

Cristganolog

Felly, gyda chynulleidfaoedd y capeli’n mynd yn llai ar hyn o bryd, beth allwn ni neud? Wel, cadw fynd. Ceisio gwneud argraff. Ni’n ddisgyblion i Iesu. Ni’n dal i ddysgu, ond dyw hynny ddim yn ein stopio rhag lledaenu’r newydd da amdano. Yn enwedig i ni, bobol ifanc, siaradwch gyda’ch ffrindie. Newch iddyn nhw sylweddoli pwysigrwydd cael Crist yn ganolog yn ein bywyde. Dangos pwysigrwydd rhoi amser i ddarllen y Beibl, mynd i’r capel a darllen Y Tyst. Sdim cywilydd mewn cyfadde pwy ni’n caru, a chreu argraff ar y bobol hynny sydd heb glywed am yr anhygoel Iesu Grist. 

Sgwn i shwt un fydde Iesu Grist ar y ddaear yn yr oes yma? Sgwn i a fydde cyfrif Facebook gyda fe, neu fydde fe’n cynnal cyfarfodydd Zoom i gysylltu gyda phawb ar draws y byd? Beth y’ch chi’n feddwl?

Mae Gwennan yn ferch ffarm sy’n byw yn ardal Cynwyl Elfed ac yn aelod o gapel Hermon. Mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn mwynhau canu’r piano. Ffaith ddiddorol am Gwennan yw, er ei bod yn ofn corynod, mae hi’n caru malwod!

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.