Dechreuodd yr achos yn 1812 ac rydym yma o hyd!

Mae’r capel ym Mhorth Tywyn ond trwy gydol hanes yr achos yr ydym wedi cael ein hadnabod fel Jerusalem Pen-bre. Pen-bre oedd yr hen bentref sydd wrth ymyl Porth Tywyn.

Mae’r aelodaeth yn dal dros y 100 a braf yw nodi bod ysgol Sul gref yn bodoli dan arweiniad Sioned Saer. Mae oedfa ieuenctid pob mis a chafwyd oedfa Nadolig braf ei naws ar ddiwedd 2022 gyda dros hanner cant yn y gynulleidfa.

Defnyddir y festri’n helaeth gan gymdeithasau sydd yn ei ddefnyddio trwy gydol yr wythnos a braf croesawu pobl yno nad ydynt yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd tu fewn i’r capel o ran oedfaon ac yn y blaen. Mae lluniau plant yr ysgol Sul yn denu sylw trwy’r amser.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

YParchedig Christopher Owen yw’r gweinidog, mae hefyd yn fugail ar Ebenezer Dyfnant a Seion Porth Tywyn. Y mae Seion yn awr wedi ymgartrefu gyda ni yn adeilad Jerusalem.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.