Lleolir ein capel yng nghanol pentref Pen-y-bont ar lan afon Dewi.
Sefydlwyd yr achos yn wreiddiol ym 1856 yn dilyn y galw am addoldy pwrpasol yn yr ardal. Mae’n debyg bod ysgol Sul gref yn bodoli ym Mhen-y-bont cyn hyn, a chynhaliwyd y cyrddau yn ysgol elusennol William Davies, sef ein canolfan gymdeithasol heddiw.
Rydym bellach yn un o bum eglwys sydd yn rhan o ofalaeth Capel y Graig Tre-lech, Capel Cendy, Bwlchnewydd a Ffynnonbedr. Fel pum eglwys rydyn ni’n cydweithio’n hwylus ac mae yna groeso i bawb i fynychu oedfa ym mhob un o’r capeli. Mae’r gymanfa bwnc a’r gymanfa ganu yn ddathliadau pwysig yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’n gwasanaethau Pasg, Cynhaeaf, Nadolig a chyrddau’r Clwb Ffermwyr Ifanc Pen-y-bont.
Rydym yn ffodus fod gennym ieuenctid gweithgar yn ein heglwys ac maent yn cynnal gwasanaethau arbennig ar ein cyfer o dan arweiniad ein hathrawon ysgol Sul brwdfrydig, sef Lily a Linda. Diolch iddynt am weithio’n ddiflino er lles ein pobol ifanc.
Mae yna groeso cynnes i bawb ymuno ậ ni, am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Elinor Jameson: 07974 370011.