Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y daw y gofyniad cyfreithiol i fangreoedd (gan gynnwys addoldai a chanolfannau cymunedol) a threfnwyr digwyddiadau (gan gynnwys gweithgareddau cymunedau ffydd) lunio asesiad risg penodol ar gyfer Covid-19 i ben ar Ddydd Llun Ebrill 18 (noder bod hynny yn golygu y bydd y rheoliadau am asesiadau risg o hyd yn gymwys ar Sul y Pasg). Gellir gweld y rheoliadau diwygio yma ond nid yw’r rheoliadau cyfansawdd yn dangos yr holl newidiadau eto wedi eu cyhoeddi.
Tan o leiaf Mai 9, fe fydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol dan do yn parhau – a byddai hynny yn cynnwys mewn addoldai neu ganolfannau cymunedol pan fyddant yn cael eu defnyddio i’r perwyl hwnnw.
Fe fydd rheoliadau sy’n mynnu llunio asesiadau risg dan gyfreithiau eraill – megis iechyd a diogelwch, diogelu, rheolau tân, ac ati – yn parhau, a lle bo’n briodol fe ddylid cynnwys risgiau Covid yn yr asesiadau hynny.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am ddiogelwch Covid yn parhau yn weithredol, ac am y tro yr un canllawiau ag o’r blaen ydynt, ac fe welir dolenni atynt o dudalen we Cytûn yma: https://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/
Rydym yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd yr wythnos nesaf. Oherwydd gwyliau’r Pasg, ni fyddwn yn gallu diweddaru tudalen we Cytûn yn llawn tan Ddydd Llun Ebrill 25.
erthygl gan Swydog Polisi Cytûn, Parchg Gethin Rhys