Cynhelir Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb eleni yng Ngwesty'r Towers, Abertawe rhwng 24-26 Mehefin.
Daw'r gwahoddiad eleni gan Gyfundeb Gorllewin Morgannwg ac mae rhaglen lawn o weithgareddau, oedfaon a chymdeithas wedi ei threfnu ar ein cyfer.
Bydd rhannau o'r Cyfarfodydd yn cael eu gwe-ddarlledu, gan gynnwys Cyflwyniad yr Ardal Leol yng nghwmni'r Arthro Prys Morgan, darlith y Rhwydwaith Heddwch gan Mererid Hopwood, a Chyngerdd Abertawe: Dinas Noddfa, yn fyw o'r Tabernacl Treforys.
Dewch o hyd i'r ffrwd fyw ar ein gwefan.
Penderfyniadau
Mi fydd tri penderfyniad yn cael eu trafod ar lawr y gynhadledd eleni sef
1. Eglwysi cynhwysol
2. Mabwysiadu datganiad gan yr Undeb
3. Tŷ John Penri i’r dyfodol
Gellir darllen y penderfyniadau yn llawn yma.

