Merthyr Protestanaidd oedd John Penri, un a oedd yn feirniadol iawn o'r eglwys oherwydd ei diffyg gofal bugeiliol ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n cael ei adnabod fel Annibynnwr cyntaf Cymru.
Crogwyd John Penri ar Fai 29 1593 a chofiwn am ei gyfraniad a'i fywyd ar y diwrnod hwn yn flynyddol.
Dyma fyfyrdod ar ei fywyd a'i esiampl gan Lywydd yr Undeb, Owain Llyr Evans.
Dyma 'gyfweliad' arbennig rhwng y cyflwynydd, Hywel Gwynfryn â John Penri. Cawn flas ar ei fywyd a'i ffydd oedd yn gyrru ei weithgarwch.
Diolch i Eglwys Minny Street am rannu'r cyfweliad.
Gweddi arbennig gan Lywydd yr Undeb, Owain Llŷr Evans yn cydnabod cariad Duw tuag atom.
Cyflwyniad i John Penri (1563 - 1593) gan gyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y diweddar Barchg Dewi Myrddin Hughes.