Eleni fe aeth criw ohonom i ddinas Lerpwl i dreulio tridiau yng nghwmni ein gilydd a bu’n brofiad hwyliog a bendithiol.

Ar y cyfan y mae Lerpwl yn ddinas hygyrch i’r rhan fwyaf ohonom ac yn ganolfan sydd wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Roeddem yn aros mewn gwesty y drws nesaf i orsaf rheilffordd Lime Street ac felly nid oedd llawer o waith cerdded na chwilota am y lleoliad.

Thema’r encil oedd ‘chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb’ Mathew 25:35. Yn y Testament Newydd, pwysleisia Iesu’r pwysigrwydd sylfaenol o roi croeso i’r dieithryn a’r dirmygedig. Atgyfnerthir yr egwyddor hon ymhellach yn y llythyrau, er enghraifft yn Hebreaid 13:2, sy’n annog credinwyr i ddangos lletygarwch i ddieithriaid, gan fod rhai, wrth wneud hynny, wedi croesawu angylion heb yn wybod iddynt. 

Dydd Mawrth

Yn dilyn gair o groeso gan Carwyn, cafwyd myfyrdod gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Elinor Wyn Reynolds Dilynwyd hyn gan gyflwyniad gan yr Athro Mari Lloyd Williams am y gwaith arbennig a wneir gan ganolfan ddydd eglwys Waengoleugoed. Mae’r ganolfan ar agor i henoed a phobl sâl yn yr ardal am ddeuddydd yr wythnos ac yn gyfle i brofi cwmnïaeth a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Yr un mor bwysig mae hefyd yn rhoi cyfnod o seibiant i’r rheini sy’n ofalwyr. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig am ddim gan wirfoddolwyr sy’n cynnwys dwy nyrs arbenigol. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu cludiant o ddrws i ddrws sy’n hynod o bwysig mewn ardal wledig

Cafwyd cyflwyniad byr wedyn gan staff yr Undeb yn Nhŷ John Penri am y gwaith amrywiol a gyflawnir ganddynt; o’r cynnyrch digidol ar y wefan i’r gwaith yn ymwneud ag adeiladau ac eiddo’r eglwysi, y gwaith gweinyddol ac ariannol a’r gwahanol gyhoeddiadau. Roedd yn braf cael cyfle i ddod i adnabod y staff yn well a gwybod eu bod yno ar ben arall y ffôn neu gyfrifiadur i gynnig cymorth.

Wedi pryd o fwyd aeth rhai ohonom i weld y sioe ‘Miss Saigon’ yn theatr hardd yr Empire a oedd gerllaw.

Dydd Mercher

Roedd y dydd hwn yn llawn gweithgarwch ac addysg. Wedi brecwast gyda’n gilydd fe gafwyd defosiwn gan Gwyndaf Richards. Rhannodd gyda ni beth o’i brofiadau yn byw ac yn gweithio yn Lerpwl ac am yr amrywiaeth mawr o bobl y cafodd y fraint o’u cyfarfod a’u croesawu i Brydain a Lerpwl. Roedd yn wybodus iawn am hynt a helynt eglwysi Cymraeg y ddinas. Bu hefyd yn aelod a diacon o eglwys Bethel o dan arweiniad y Parchg D. Ben Rees. Yna, rhannodd Dylan Rhys wybodaeth am brosiect Onesimws, Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM).

Caethwasiaeth

Yn y sesiwn ddilynol fe ddaeth dau addysgwr o Amgueddfa Ryngwladol Caethwasiaeth i’n hannerch. Rhan drist o hanes Lerpwl yw y bu yn borthladd pwysig i’r llongau oedd yn cludo caethweision o Affrica i America. Dyma oedd sylfaen y cyfoeth mawr a ddaeth i’r ddinas wrth iddynt fasnachu pobl. Y bwriad oedd ein bod yn ymweld â’r amgueddfa ond roedd hi wedi ei chau am ddwy flynedd er mwyn ei hadnewyddu gan ailstrwythuro’r arddangosfeydd. Er hynny fe gafwyd cyflwyniad arbennig gan Adam ac Ella. Roedd y ddau ohonynt yn gyfathrebwyr wrth reddf. Adam oedd y prif siaradwr ac fe gyflwynodd inni erchyllterau dieflig caethwasanaeth mewn ffordd drawiadol. Esboniodd sut y buont fel staff yn trafod y ffordd yr oedd creiriau yn cael eu harddangos a’r effaith roedd hynny’n ei gael ar ymwelwyr. Roedd Adam ac Ella o dras Affricanaidd ac roedd hynny wedi grymuso'r neges oedd ganddynt oherwydd ei fod yn deillio o’u calonnau ac o brofiadau eu cyndeidiau.

Amgueddfa

Yna, yn ddiymdroi aethom i Amgueddfa Walker oedd dros y ffordd ac fe’n tywyswyd i edrych ar gelf oedd yn gysylltiedig â chaethwasiaeth. Roedd yno gerfluniau a pheintiadau gan deuluoedd a wnaeth eu ffortiwn drwy gam-drin yn greulon eu cyd-ddyn. Golyga hyn fod staen du caethwasiaeth yn rhan o orffennol teuluoedd, cwmnïau a sefydliadau ac yn rheswm pam eu bod yn llwyddiannus a chyfoethog. Ac i raddau rydym i gyd yn rhan o’r gorffennol echrydus hwn.

Gwibdaith

Gari Wyn oedd yn arwain y daith bws o amgylch lleoliadau a mynwentydd oedd a chysylltiadau Cymreig. Bu Lerpwl yn fan cyrchu i ddegau o filoedd o Gymry Cymraeg dros y canrifoedd. Tyrrodd adeiladwyr, seiri, gofaint, gwŷr busnes a phobl gyffredin yno i chwilio am waith a bywyd gwell. Yn sgil hynny adeiladwyd 37 o gapeli ar gyfer y Cymry fu’n llawn gweithgareddau o bob math. Roedd Gari yn amlwg wedi gwirioni ar hanes y Cymry yn Lerpwl ac yn amlwg wedi gwneud llawer o waith ymchwil i unigolion, byd busnes ac arweinyddion Cristnogol fu yno. Roedd ei afiaith yn heintus a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn rhyfeddol. Gwelsom gapeli enwog Chatham Street ac adfeilion trist Princess Road, cartrefi adeiladwyr, ‘Welsh streets’, mynwentydd Anfield a Toxteth ac yno gwelsom fedd Gwilym Hiraethog ac Eleazar Roberts. Gwefreiddiol oedd canu ‘Dyma gariad fel y moroedd’, wrth fedd Gwilym Hiraethog o dan arweiniad Sian Meinir. Roedd yn daith i’w chofio

Darlith 

Ar ôl swper aethom i gapel Bethel, Heathfield Road ar gyfer darlith goffa y Dr Pennar Davies a Dr R. Tudur Jones a draddodwyd eleni gan Dr Geraint Tudur. Testun y ddarlith oedd ‘Eglwys Rydd y Cymry.’ Cyflwynodd i ni hanes dirdynnol yr ymdrech i ddisgyblu’r Parchg William Owen Jones o ganlyniad i gyhuddiadau yn ei erbyn. Dyma oedd man cychwyn achos byrhoedlog Eglwys Rydd y Cymry. Diolch i Geraint am ei gyflwyniad ysgolheigaidd a gafaelgar.

Dydd Iau

Dechreuwyd ar weithgareddau’r bore gyda myfyrdod gan Dylan Rhys yn seiliedig ar dri llun o borthladd Lerpwl. Datblygodd ar yr egwyddor fod porthladd yn lle i groesawu ac i ffarwelio Cafwyd atodiad i’r ddarlith goffa gan Dr Geraint Tudur yn cyflwyno dirgelwch John Jones, Sefton! Mae’r dirgelwch am y cymeriad brith hwn yn parhau. Cyflwynodd y Parchg Robert Parry natur ei waith fel gweinidog Cymraeg yn Lloegr a’r heriau arbennig y mae hynny yn ei godi. I gloi’r gweithgareddau fe gafwyd defosiwn cofiadwy gan Owain Llŷr Evans yn seiliedig ar Revels. Melys iawn a chreadigol.

Diolch bawb am encil adeiladol a rhagorol.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.