Dyma newyddion gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru am eu prosiect 'Capeli Cymru'

 Capeli Cymru yw prosiect cyffrous newydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddeall, dogfennu, ac ymateb i'r golled gynyddol yn nhreftadaeth Anghydffurfiol Cymru. 

Wedi’i gefnogi gan fenter Treftadaeth mewn Angen: Mannau Addoli Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nod y cyfnod datblygu 15 mis yw mapio cyflwr presennol adeiladau capeli, archifau, gwrthrychau a threftadaeth gysylltiedig. 

Bydd ein canfyddiadau’n helpu i lunio gwell cefnogaeth i gynulleidfaoedd, enwadau, cymunedau a pherchnogion preifat – gan sicrhau bod y dreftadaeth gyfoethog hon yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect hefyd yn dathlu’r rôl ganolog y mae capeli wedi’i chwarae wrth lunio bywyd crefyddol, diwylliannol, gwleidyddol ac addysgol Cymru dros y 300 mlynedd diwethaf. 

Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn ein “cyfrifiad” cenedlaethol o gapeli neu ymuno a gweithdai fydd yn trafod heriau gofalu am dreftadaeth capeli, cysylltwch â capelicymru@cbhc.gov.uk 

Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r post hefyd: 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

Ffordd Penglais 

Aberystwyth 

Ceredigion 

SY23 3BU 

Mae Prosiect Capeli Cymru wedi’i wneud yn bosibl gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn helpu i ddiogelu treftadaeth Anghydffurfiol Cymru. 

Delwedd: Soar, Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Llanbedr Pont Steffan. Cerdyn post a gynhyrchwyd gan D. J. Davies, Llanbedr Pont Steffan, 1910. 661670 - Coflein Digital Asset Management 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.