(Trefor Jones-Morris, 1953–2026) 

Rhyfedd meddwl bod bron 60 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi ddod i nabod Tref gyntaf, pan symudodd ef, ei efell Dafydd a’u rhieni, o Dregarth i Fangor. Capel ac ysgol Sul Pendref, Bangor o dan weinidogaeth y Parchg John Gwilym Jones, a chlwb ieuenctid y capeli Cymraeg, ddaeth â ni at ein gilydd. Diwrnod oedd yn ein gwahanu o ran oedran, sydd wedi esgor ar sawl dathliad pen-blwydd cofiadwy dros y blynyddoedd! Roeddem hefyd yn rhannu sawl diddordeb cyffredin. 

Gan ei fod ef, fel finnau, wedi symud i Fangor i fyw, roedd y ddau ohonom yn awyddus i gael ein derbyn fel hogia Bangor go iawn! Bu hynny’n dipyn o frwydr i Tref oherwydd ei fod yn fab i blismon. Ei lys enw ar y pryd oedd ‘Young Sid, the coppers kid’ (cymeriad o The Beezer, comig poblogaidd!) Ond bu ei hiwmor yn help mawr iddo i ennill ei le. Fel mae wedi bod dros y blynyddoedd ym mhob cylch y bu’n troi ynddyn nhw. 

Troeon yr yrfa 

Ar ôl gadael ysgol aeth Tref i Gaerdydd i hyfforddi gyda’r Swyddfa Bost cyn dychwelyd i weithio yn y brif swyddfa ym Mangor. Ond fel sawl un ar ddechrau’r saithdegau, daeth o dan ddylanwad y cynyrfiadau ysbrydol a welwyd mewn sawl ardal, ac fe benderfynodd newid cyfeiriad a pharatoi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Bala-Bangor. 

Buan iawn y daeth yn boblogaidd iawn gyda’r myfyrwyr eraill. Roedd ei ffraethineb a’i allu i dynnu coes yn ddiarhebol, ond hefyd roedd parch iddo fel person ag egwyddor oedd yn barod i sefyll dros yr hyn roedd yn ei gredu. Bu yng nghanol yr holl frwydrau dros y Gymraeg tra yn y coleg. 

Ddiwedd y 70au daeth sawl un o fyfyrwyr Bala-Bangor i Sir Gaerfyrddin yn weinidogion. Roeddwn i yn Nhre-lech ac yntau yn Hermon a Seilo, Llangeler, gyda Seion, Llandysul yn dod o dan ei ofal yn ddiweddarach. Byddai’r gwaith yn dod â ni i gysylltiad cyson, gan fod ein cylchoedd yn gorgyffwrdd. Yn 1990 fe drefnom ni daith rhwng ein capeli i fynd i Oberammergau i weld y ddrama enwog, gan lenwi bws a chael lot o hwyl wrth wneud hynny. Bu’r ddau ohonom yn helpu sefydlu Aelwyd Hafodwenog ac yn arweinyddion arno tra’n byw yn yr ardal. Byddem yn gweld ein gilydd yn gymdeithasol yn aml, a phan briododd Tref ag Elen yn 1985, fe gawsom dipyn o’i chwmni hithau. Mae’r cyfeillgarwch wedi para a dyfnhau dros y blynyddoedd. 

Gweinidog 

Bu Tref yn weinidog cydwybodol ac yn ffrind da i bobl Hermon, Seilo a Llandysul. Roedd hiraeth mawr pan symudodd i Wrecsam ac mae pobl yr ardal yn dal i’w gofio’n annwyl ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, ei gyfeillgarwch a’i hiwmor.  

Bu’n gweinidogaethu yn Ebeneser, Wrecsam o 1996 tan ei ymddeoliad yn 2019, gan ychwanegu Pisgah, Llandegla yn 2013. Unwaith eto roedd yn weinidog poblogaidd oedd yn agos at ei bobl, ac fe fu’n weithgar yn hybu pob agwedd o’r bywyd Cymraeg yn y ddinas a’r cyffiniau.  

Gwnaeth Tref gyfraniad gwerthfawr i fywyd yr Annibynwyr ar hyd ei yrfa. Bu ar bwyllgorau’r Undeb a’r Cyrddau Chwarter, yn drysorydd y Mudiad Ieuenctid ac yn ysgrifennydd y Coleg. Ond doedd dim byd plwyfol amdano a bu’n cydweithio’n rhwydd gyda gweinidogion ac eglwysi o bob enwad. 

Diddordebau 

Roedd gan Tref ddiddordebau eang fyddai’n aml yn ffeindio’u ffordd i mewn i’w bregethu. Hanes yr Hen Aifft oedd un. Bu ar daith i’r wlad gyda’i ewythr ddiwedd yr 1960au, a phan ddaeth yr arddangosfa ‘Trysorau Tutankhamun’ i’r Amgueddfa Brydeinig ychydig yn ddiweddarach, roedd yn rhaid mynd yno i’w weld. Cofio fe’n dweud un tro, a’i dafod yn ei foch, bod e’n teimlo bod yr Aifft heb gael chwarae teg gan rai o awduron yr Hen Destament! 

Pêl-droed wedyn. Un o’r troeon olaf i mi ei weld roedd yn eistedd o flaen y teledu yn gwylio Match of the Day ac yn cwyno bod ei hoff dim, Spurs, wedi colli eto! Bu hefyd yn gefnogwr brwd i’w dimau lleol. Bangor City ar gae Farrar Road yn ei arddegau, â’r Cae Ras wedi symud i Wrecsam, ac roedd yn ymfalchïo yn llwyddiant cyfnod Rob a Ryan a’r tri dyrchafiad dilynol! 

Byddai’n mwynhau mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Roedd Prifysgol Bangor ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au yn cynnig cyfle arbennig i glywed rhai o fandiau mwyaf enwog y cyfnod, ac fe fyddem yn manteisio ar hynny cymaint ag y gallem. Parhaodd y diddordeb dros y blynyddoedd gan fynd â ni i gyngherddau ar draws Cymru, Lerpwl, Manceinion, Llundain a Gŵyl Focus Wales yn Wrecsam. 

Beatles 

Y diddordeb mawr oedd y Beatles. Eu caneuon yn naturiol, a byddai rhyddhau record newydd ganddynt yn galw am ymweliad ben bore i County Record Shop ym Mangor, er mwyn bod y cyntaf i gael copi!  Buom ar sawl ymweliad cofiadwy â mannau oedd yn gysylltiedig â hwy yn Lerpwl a Llundain, ynghyd â phenwythnos dathlu’r Beatles ym Mhortmeirion. Roedd Radio Cymru hefyd yn dod ar ei ofyn pan fyddai eitem ganddynt am y grŵp. 

Priodol oedd gorffen y gwasanaeth angladd gyda’r gân, ‘Let it Be’. Hon oedd ei ddewis-gân ar y piano, ond hefyd, fel dywed Paul McCartney, mae’n gân a ysgrifennwyd er mwyn codi ysbryd a thynnu pobl ynghyd – nodweddion oedd mor amlwg yng nghymeriad Tref. 

Bu farw yn dawel yn ei gartref yng Nghoed-poeth a chynhaliwyd ei angladd yn amlosgfa Pentrebychan, Wrecsam yng nghwmni’r teulu a ffrindiau agos. Cydymdeimlwn yn fawr â’i briod Elen, Lois eu merch, Carwyn, y mab yng nghyfraith a’i efell Dafydd. Yn sicr, mae llu o berthnasau a ffrindiau, ar draws Cymru, yn cofio’n annwyl amdano ac yn diolch am y fraint o gael ei adnabod. 

 

Robin Samuel a Geraint Tudur 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch ein newyddlen fisol, Rhwydwaith trwy ebost i gael y newyddion diweddaraf o’r Undeb.