Un o gapeli mwyaf Sir Gâr yn dathlu carreg filltir

Daeth cynulleidfa niferus iawn ynghyd i gapel Heol Awst nos Sul 22 Mawrth i’r gyngerdd dathlu. Bu disgwyl mawr am y noson a pharatoadau gofalus yn eu lle, diolch i Olga WIlliams a’i thîm. Ni chawsom ein siomi a chafwyd dathliadau gwirioneddol yng nghwmni yn agos at 100 o blant a phobl ifanc a oedd yn cynnwys corau Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Adran yr Urdd Ffynnon- ddrain. Bu eu cyfraniadau i’r gyngerdd yn werthfawr tu hwnt a phob eitem yn raenus. Yr arweinyddion oedd Berian Lewis a Nia Evans gyda Nia Clwyd yn cyfeilio i’r parti cerdd dant. Fe’n hanrhydeddwyd hefyd gan gwmni a chyfraniadau’r soprano Fflur Wyn a ddaeth atom yn unswydd o Lundain. Roedd ei llais peraidd yn llenwi’r adeilad i gyfeiliant medrus Sioned Beynon. Felly hefyd Gruffydd Wyn, seren Cân i Gymru a Britains Got Talent a ganodd yn fendigedig.

Cadeirydd y noson oedd Ifan Charles, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys. Yn un o blant Heol Awst, pleser oedd ei glywed yn rhannu atgofion am ei blentyndod yno a dylanwad yr achos ar ei fywyd ym more oes. Meirion Wynne Jones oedd wrth yr organ gan godi’r canu cynulleidfaol i’r uchelfannau. Bu Sioned Beynon yn cyfeilio i bawb drwy’r noson, a mawr yw ein diolch iddi hithau a Meirion, dau o gymwynaswyr talentog yr ardal, am eu gwaith. Llywyddwyd y noson gan weinidog eglwys Heol Awst, y Parchg Beti Wyn James.

Rhannwyd elw sylweddol y noson rhwng corau Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Adran yr Urdd Ffynnon-ddrain i’w helpu ar eu siwrne i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Fôn.

Do, bu’n noson a fydd yn aros yn y cof – yn ddathliad o’r hyn a fu, ac yn ysbrydoliaeth wrth i ni edrych i’r dyfodol. Priodol oedd diweddu’r noson wrth i’r gynulleidfa gydganu geiriau’r Parchg Peter Thomas:

Cerddwn ymlaen i’r yfory,

chwifiwn faner yn y gwynt,

seiniwn glod am a gafwyd,

am fendithion dyddiau gynt;

am y rhai fu yma’n sefyll

ac yn brwydro dros y gwir

seiniwn glod a cherddwn ymlaen.

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.