Arweinwyr eglwysi o bob cwr o Ewrop yn cyfarfod yng Nghymru

Braint fawr i nifer ohonom dros benwythnos Sul y Blodau oedd cael croesawu Pwyllgor Llywio Rhanbarth Ewrop o Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd (WCRC) i Gymru. Prif nod yr ymweliad oedd cryfhau cysylltiadau â’r tri enwad ac undeb o Gymru sy’n aelodau o’r Cymundeb: Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a Synod Cenedlaethol Cymru yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Roedd cynrychiolwyr y Pwyllgor Llywio wedi teithio o Rwmania, Sweden, y Swistir, yr Almaen a gogledd-ddwyrain Lloegr a dros dridiau o drafod cafwyd cyfle i arddangos undod, archwilio’r cyd-destun eglwysig a gwleidyddol, a chael blas ar ddiwylliant, iaith, chwaraeon a bwyd Cymru.

Cyflwyniad arbennig

Cynhaliwyd y prif gyfarfod fore Gwener yn swyddfa Synod Cymru yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Ynghyd â chyfraniadau gan aelodau’r Cymundeb yng Nghymru cafwyd cyflwyniad arbennig iawn gan Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cytûn, yn rhoi trosolwg o gyd-destun yr eglwysi yng Nghymru ac ar ddatblygiad eciwmeniaeth yng Nghymru (sbardunodd hwn gryn ddiddordeb a thrafodaeth ymysg y Pwyllgor Llywio). Ychwanegwyd at hyn gan Iestyn Davies o Cytûn, a Peredur Owen Griffiths AS, wrth iddynt ystyried agweddau gwleidyddol a chymdeithasol, gan gynnwys perthynas Cymru ag Ewrop mewn cyd-destun ôl-Brexit.

Ar y dydd Sadwrn, cafodd y Pwyllgor Llywio gyfle i ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, cyn ein bod yn rhannu pryd gyda’n gilydd ym Mae Caerdydd gyda’r nos. Ddydd Sul, mynychodd aelodau’r Pwyllgor wasanaethau addoli mewn eglwysi lleol. 

Ymweliad gwerthfawr

Heb amheuaeth sicrhaodd yr ymweliad hwn gyfle gwerthfawr ar gyfer dysgu ar y cyd, deialog a chymdeithasu o fewn teulu ehangach y Cymundeb. Dyma ddywedodd Jenny Dobers, Llywydd Rhanbarth Ewrop o’r Cymundeb wrth adael: ‘Rydym yn gadael gyda’n calonnau yn llawn o gynhesrwydd pobl Cymru, gofal aelodau eich eglwysi, harddwch natur a diwylliant Cymru, a chyfoeth o ddoethineb ac ysbrydoliaeth ar sut i fyw’r Efengyl yn ein hoes ni. Rydym yn diolch i Dduw ein bod mewn cymundeb â chi. Mae’n gysur gwybod, hyd yn oed ar draws y pellter, y gallwn weddïo gyda’n gilydd dros fyd sydd mor daer angen heddwch.’

 

Hefin Jones

 

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.