Dyma weddi arbennig gan awdur anhysbys, wedi ei lleisio gan Parchg Robin Samuel.

Lawrlwytho'r testun

Ior, gwna fi’n offeryn dy aflonyddwch.

 

Lle bo difaterwch, boed i mi herio;

Lle bo cydymffurfio, boed i mi gwestiynu;

Lle bo tawelwch, boed i mi godi llais.

 

Lle bo’n rhy gysurus a fawr ddim yn digwydd, 

boed i mi gyffroi.

 

Lle bo drysau ar gau a chalonnau o dan glo,

Crea’r awydd i wrando.

 

Pan fydd cyfreithiau’n deddfu a phoen yn cael ei anwybyddu…

Pan fydd llais traddodiad yn boddi cri angen….

Boed i mi geisio gweithredu cyfiawnder yn hytrach na siarad amdano;

 

Ior, aflonydda ni, 

I gadw cwmni â’r estron, yn ogystal â bod o’u plaid;

I garu’r rhai sy’n anodd eu caru, ynghyd â’r rhai gellir eu caru’n rhwydd.

 

Ior, gwna fi’n offeryn dy aflonyddwch.

 

(Awdur anhysbys)

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.