Mae Adolygiad Amddiffyn diweddaraf Llywodraeth y DU yn peintio llun pryderus — un sy’n portreadu dyfodol sy’n cael ei lunio fwy gan arfau na gan ddoethineb.

Gyda 62 o argymhellion i’w derbyn yn llawn, mae’r adolygiad yn darllen llai fel strategaeth a mwy fel anrheg perffaith I’r diwydiant amddiffyn.

Ar frig y rhestr mae buddsoddiad o £15 biliwn yn y rhaglen niwclear, gan gadw llongau tanfor  o dan faner “ataliad.” Bydd £6 biliwn arall yn mynd i arfau, gyda’r bwriad o greu tua 1,800 o swyddi. Ond a yw hyn mewn gwirionedd yn werth am arian?

Yn aml caiff gwariant ar amddiffyn ei werthu fel ffordd o ysgogi twf economaidd a chyflogaeth. Ond, fel y nodir yn yr Adolygiad Amgen o Amddiffyn, mae ganddo un o’r lluosyddion economaidd gwannaf. Mae buddsoddi mewn iechyd, ynni gwyrdd neu addysg yn creu mwy o swyddi tymor hir ac yn gwella bywydau pobl lawer yn well. Yn rhy aml, mae’r honiadau bod y gwariant hwn yn helpu gweithwyr cyffredin yn cuddio’r ffaith ei fod yn elwa cwmnïau arfau a chyfranddalwyr hyd yn oed yn fwy.

Ar yr un pryd, mae’r Adolygiad yn anwybyddu’r bygythiad mwyaf i ddiogelwch cenedlaethol: ymosodiadau seiber. Mae’r GIG a gwasanaethau hanfodol eraill yn beryglus o agored, ac eto nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig buddsoddiad gwirioneddol feiddgar mewn diogelwch seiber.

Am flynyddoedd, mae llywodraethau Ceidwadol a Llafur ill dau wedi torri’n ddifrifol ar wariant cymorth rhyngwladol. Ni fydd disodli diplomyddiaeth a chydweithrediad byd-eang â gwariant milwrol yn ein gwneud yn fwy diogel — dim ond gwaethygu ansefydlogrwydd byd-eang fydd y canlyniad. A gyda hynny, byddwn yn gweld mwy o bobl ar ffo, mwy o wrthdaro, a mwy o ffoaduriaid. Bydd hyn yn tanio’r union drafodaethau am fewnfudo sy’n dominyddu a rhannu gwleidyddiaeth Prydain heddiw.

Mae cost amgylcheddol hefyd. Mae gweithgarwch milwrol byd-eang yn cyfrif am tua 5.5% o allyriadau carbon — ac mae’r ffigur hwnnw’n debygol o gynyddu. Ar adeg pan fo angen gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar frys, mae adeiladu economi ryfel yn ein gwthio ymhellach i’r cyfeiriad anghywir.

Ac eto, mae llawer ar draws y sbectrwm gwleidyddol — hyd yn oed rhai undebau llafur — wedi credu’r hen chwedl bod paratoi at ryfel yn dod â heddwch a ffyniant. Ond nid arfau sy’n creu diogelwch go iawn. Fe ddaw o wasanaethau cyhoeddus cryf, perthnasoedd rhyngwladol sefydlog, ac ymateb difrifol i fygythiadau hinsawdd a seiber.

Mewn byd cynyddol dreisgar a rhannedig, mae’n anoddach nag erioed i godi llais dros heddwch a chymod. Ond ymhlith y galwadau cryfaf am ryfel, dinistr a marwolaethau sifiliaid, rydym yn codi ein lleisiau. Yn erbyn y lli, rhaid i ni sefyll yn gadarn — dros heddwch a dros ddynoliaeth.

Rhun Dafydd 
Cymdeithas y Cymod

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.