Cynhaliwyd bore coffi yng Nghapel Trinity, Sgeti fore Llun 15 Mehefin i godi arian i elusen Voice of Ukraine Wales and friends.
Trefnwyd yr achlysur gan Dr Dai Lloyd a Dr Cath Lloyd a’r bwriad yw darparu cyfarpar meddygol i’w hanfon i Wcráin. Daeth tair gwraig, Svitlana Phillips, Oksana Savchenko ac Olena Kheminich, sy’n wreiddiol o Wcráin ond yn byw yn Abertawe bellach, atom ni i arddangos enghreifftiau gwych o wisg draddodiadol a gwaith llaw – brodwaith sy’n rhan o draddodiad cryf Wcráin. Roedd hyd yn oed brodwaith ar yr esgidiau! Siaradodd Svitlana yn deimladol iawn am arferion a thraddodiadau Wcráin sydd, fel Cymru yn cynnwys diddordeb mewn cerddoriaeth werin, clasurol a roc modern. Cyfeiriodd hefyd, wrth gwrs, am y sefyllfa dorcalonnus sydd yno ar hyn o bryd, a safbwynt penderfynol trigolion Wcráin o bob oed i fod yn wlad annibynnol yn erbyn pob gorthrwm.
Cysylltiadau
Atgoffwyd ni gan Dr Dai Lloyd am hen gysylltiad rhwng Cymru ac Wcráin gan i John James Hughes, peiriannydd a gŵr busnes o Ferthyr Tydfil fynd i ardal Donbas yn 1870 lle sefydlodd waith haearn enfawr a phwll glo. Dyma ardal Donetsk heddiw. Hefyd am Gareth Jones, newyddiadurwr, a ysgrifennodd yn 1933 am y Newyn Mawr yn Wcráin, gan roi ei fywyd mewn perygl wrth ddatgelu hynny. Mae yna blac i gofio amdano yng ngholeg Aberystwyth. Lladdwyd e’ yn 1935 – gan heddlu cudd Rwsia mae’n debyg. Cyfeiriodd Svitlana hefyd at y ffaith i bobl Wcráin gefnogi pobl cymoedd Cymru adeg streic.
Cyfeirir at Wcráin fel ‘basged fara Ewrop’ gan ei bod yn allforio mwy o wenith, barlys, rêp a blodau’r haul nac unrhyw wlad arall. Mae’r rhyfel yn cael dylanwad anfanteisiol ar hyn nawr ac mae llawer o’r byd yn dioddef.
Diolchodd y Parchg Jill-Hailey Harries yn gynnes iawn i Svitlana, Oksana ac Olena am ddod atom ni ac arddangos eu gwisgoedd a’r brodwaith maen nhw mor falch ohono. Hefyd i Dai a Cath am drefnu’r achlysur ac, wrth gwrs, i bawb am eu cefnogaeth.
Ann Davies
Bethel Trinity Sgeti