Y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn Cyhoeddi Penodi Pedwar Llysgennad Nodedig
Mae’r Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill (CACE) yn cyhoeddi penodi pedwar unigolyn amlwg yn Llysgenhadon i’w deulu o wasanaethau — gwasanaethau sy’n darparu cefnogaeth dosturiol, hirdymor i bobl yr effeithir arnynt gan gaethiwed, trawma a thrallod emosiynol.
Bydd y Llysgenhadon yn cefnogi ac yn hyrwyddo gwaith:
Y Stafell Fyw — canolfan adferiad gymunedol, heb derfyn amser, sy’n gweithredu dull cynhwysol o ymdrin â phob math o gaethiwed;
Cynnal — gwasanaeth cwnsela cyfrinachol i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol a’u teuluoedd;
Lle i Fyw — Stafell Fyw rhithiol, arloesol, sy’n cael ei datblygu ar y cyd â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth adferiad hygyrch ledled y byd, ym mhob iaith.
Y Llysgenhadon
Yr Athro’r Fonesig Elan Closs Stephens DBE
Daw’r Fonesig Elan â phrofiad helaeth o wasanaeth cyhoeddus ym meysydd y cyfryngau, diwylliant a llywodraethu. Hi yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, gyda chyfrifoldeb am oruchwylio etholiadau’r Senedd yn 2026 — penodiad sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth y cyhoedd a’i harweinyddiaeth ar y lefel uchaf.
Tan yn ddiweddar, hi oedd Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddar fe’i hetholwyd yn Llywydd benywaidd cyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu hefyd yn gynrychiolydd y BBC dros Gymru ar Ymddiriedolaeth a Bwrdd y BBC o 2010, gan wasanaethu fel Cadeirydd Dros Dro BBC y DU yn 2023.
Y Farwnes Finlay o Landaf
Yn glinigydd blaenllaw ac Athro Gofal Lliniarol yn Ysbyty Felindre, mae’r Farwnes Finlay yn dod ag arbenigedd helaeth ym maes iechyd y cyhoedd a gofal tosturiol. Mae ei gwaith a’i llais dylanwadol ym maes llesiant a moeseg yn gryfder sylweddol i genhadaeth CACE o gefnogi adferiad cyfannol.
Meg Jones MBE
Mae Meg Jones MBE, pencampwraig rygbi’r byd, wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd eang drwy ei llwyddiannau chwaraeon a’i hymrwymiad cyhoeddus i iechyd, gwydnwch a llesiant. Mae ei chysylltiad cryf â’r gymuned yn ei gwneud yn llysgennad pwerus dros wasanaethau adferiad.
Lleuwen Steffan
Yn gantores, cyfansoddwraig ac yn llysgennad diwylliannol o fri, mae Lleuwen Steffan yn dod â chreadigrwydd, empathi a chysylltiad dwfn ag iaith a chymuned sy’n adlewyrchu gwerthoedd cynhwysol CACE. Wedi’i lleoli yn Llydaw, mae ei safbwynt rhyngwladol yn atgyfnerthu uchelgais fyd-eang Lle i Fyw.
Arwyddocâd y Penodiadau
Bydd y Noddwyr hyn yn chwarae rôl allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o gaethiwed ac adferiad, cefnogi gweithgarwch codi arian, a chryfhau hyder y cyhoedd yn llywodraethu a gweledigaeth CACE. Yn benodol, byddant yn:
• hyrwyddo dealltwriaeth o adferiad fel proses gydol oes sy’n canolbwyntio ar urddas y person;
• cryfhau cysylltiadau â’r sectorau iechyd, y celfyddydau a bywyd dinesig yng Nghymru a thu hwnt;
• herio stigma drwy eiriolaeth dosturiol a chynhwysol sy’n rhoi blaenoriaeth i lesiant;
•atgyfnerthu ymddiriedaeth mewn safonau uchel o lywodraethu, tryloywder ac ymarfer moesegol.
Dywedodd y Parch. Denzil John, Cadeirydd CACE:
“Mae’n fraint fawr croesawu’r Llysgenhadon hyn, y mae eu cyflawniadau a’u uniondeb yn adlewyrchu’r gwerthoedd sydd wrth wraidd ein gwaith. Bydd eu cefnogaeth yn allweddol wrth i ni barhau i arloesi a chefnogi unigolion a theuluoedd ar bob cam o’u taith adferiad.”