Adroddiad y Llywydd, Parchg Dyfrig Rees i gyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru 19 Mai 2026
- Cefais gyfle i ymuno â chyfeillion yr Ystafell Fyw ar gyfer ei seremoni/gwasanaeth Coeden Gobaith/Tree of Hope ychydig cyn y Nadolig. Cfawyd cyfle i ddysgu a gwybod am y gwaith arbennig a wneir gan yr elusen. Roedd amryw o’r cleientiaid yn bresennol ac yn barod iawn i rannu eu profiadau a’u tystiolaeth i waith yr Ystafell Fyw.
Diolchwyd i Wynford Ellis Owen yn arebennig am ei waith a’i arweiniad.
- Ers hynny y mae Wynford wedi ei arhydeddu â Gwobr Times Sternberg 2026, gwobr a ddyfernir i bobl am eu gwasanaeth ar adeg o’u bywyd pryd y dylasent fwynhau hamdden a seibiant. Gwyddom, wrth gwrs, wasanaeth clodwiw ym maes gofal a chyngor a chwnsela ac am ei rôl greiddiol i waith yr Ystafell Fyw.
- Yn dilyn trafodaeth yn y Cyngor ym mis Tachwedd, penderfynwyd ein bod yn cysylltu á’r Archesgobion Cherry a Mark i’w holi am y priodoldeb o lunio datganiad/neges Nadolig ar y cyd. Bu Cynan Llwyd yn ddolen rhyngom a chefais innau’r fraint o lunio neges ddrafft a dyfodd yn well wrth i’r Archesgobion ei golygu.
Mynychais y digwyddiad yn y Deml Heddwch ar ddiwrnod cofio’r Holocaust ym mis Ionawr. Pontio’r Cenedlaethau oedd y thema. Mater sensitif iawn yw hwn, wrth gwrs, yn enwedig o gofio’r tensiynau sydd yn Israel/Palestina ac ar draws cynifer o wledydd y byd.
- Mynychais ddigwyddiad yn y Senedd a drefnwyd gan Gynhadledd Esgobion Pabyddol Cymru a Lloegr. Cyfle i rwydweithio a ffurfio adnabyddiaeth.
- Llofndodais yn enw’r Cyngor ddatganiad wedi ei lunio gan yr Archesgob Mark ar ran cymunedau ffydd Cymru i’w anfon i’r Senedd yn wyneb y drafodaeth i ganiatau’r hawl i farw yn gofyn iddynt nacau’r hawl hwnnw.Tybiais, yn gywir, gobeithio y buasai eglwysi’r Cyngor yn cytuno â’r neges honno.
- Yr oedd yn ddrwg iawn gennyf imi fethu derbyn gwahoddiad i Iftar oedd yn agor cyfnod Ramadan gan fod awydd pendant i godi pontydd rhwng y cymunedau ffydd.
- Profiad arbennig oedd bod yn y Deml Heddwch i nodi lansiad Cymru Global sef y WCIA gynt. (Welsh Centre For International Affairs.) Mewn cyfnod o densiynau a diffyg cyd-fyw enbyd yn ein byd dyma asiantaeth y mae angen inni wneud lalwer mwy o ddefnydd ohoni.
- Eto’n y Deml Heddwch trefnwyd cyfarfod gan ein cyfeillion Islamaidd ar gyfer y crefyddau Abrahamaidd a chyfle i lofnodi datganiad ar drothwy’r etholiad yn apelio am ymrwymiad i sicrhau bod Cymru’n genedl lle mae heddwch a chyfiawnder a brawdgarwch yn fynnu ac yn seilio pob bywyd.
- Grŵp Galluogi Cytun. Mae yna adroddiad wedi ei gyflwyno i’r cyfarfod hwn gan Cynan.
- Mae’n gweddu’n bod ni’n diolch i Dr Jenny Hurd am ei llwyddiaeth wrth i’w thymor dynnu tua’i derfyn a dymuno’n dda i un o’n pobl ni, Kathryn Stowers, o Gasnewydd sy’n ei holynu.
- Fforwm Cymunedau Ffydd. Fel y gwyddoch, wrth gwrs, mae tymor Jane Hutt fel yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Daw Sioned Williams i’r rôl honno bellach.