Nid trwy drais a rhyfela y mae datrys sefyllfa'r Dwyrain Canol, yn ôl arweinwyr un o brif enwadau Cristnogol Cymru.
Mewn cyfarfod yn Aberystwyth heddiw (7 Mawrth 2026) fe wnaeth Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg alw am gadoediad llwyr a chadarn yn y Dwyrain Canol. Fe wnaeth Llywydd yr Undeb, Owain Llŷr Evans, hefyd alw ar Gristnogion i godi llais i fynnu bod cyfraith ryngwladol yn cael ei pharchu.

Yn llawn
'Yr ydym yn datgan fel cynrychiolwyr Eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg na ellid cyfiawnhau unrhyw ddefnydd o drais na rhyfela fel cyfrwng i ddatrys trafferthion y Dwyrain Canol. Tristawn o weld pobl gyffredin yn cael eu targedu a'u lladd, a'r gwrthdaro'n lledu.
'Galwn am gadoediad ar fyrder yn y Dwyrain Canol. Rhaid gwarchod cyfraith ryngwladol er sicrhau hyrwyddo cymod, diogelwch a'r gobaith o heddwch parhaol.' Ychwanegodd Llywydd yr Undeb, Owain Llŷr Evans, ‘Nid oes esgus gennym fel Cristnogion rhag peidio â codi ein llais dros yr hyn sy’n gyfiawn yn y byd.’