Gwahoddwyd yr enwadau sy’n cynnal eglwys Llanfair ym Mhen-rhys i gwrdd yno ar ben y mynydd er mwyn rhoi croeso i Lywydd FJKM (yr Eglwys Bresbyteraidd ym Madagascar) sydd draw yn y wlad hon ar gyfer cynhadledd Ysgrifenyddion Cyffredinol CWM sy’n digwydd yn Great Missenden eleni.

Y mae Pastor Zaka Andriamampianina yn newydd i’r swydd bwysig hon ac mae wedi profi ei allu, nid yn unig fel pregethwr yr efengyl allan yn y wlad ond hefyd fel rhywun sy’n medru cynnig arweiniad a bod o gymorth adeiladol yn y cyfnod gwleidyddol cythryblus diweddar ym Madagascar.

Rhoddodd Pastor Zaka adroddiad byw i bawb o fywyd ym Madagascar heddiw.

Cafodd Pastor Zaka ei groesawu’n gynnes i gymuned Pen-rhys a soniwyd am hanes y cenhadon ac am y berthynas hyfryd a rhagweithiol fu rhwng pobl Pen-rhys a Madagascar.

Dros y blynyddoedd diweddar daeth pobl ifanc o Fadagascar draw i weithio yng nghymuned Pen-rhys gan gyfoethogi bywyd yno. Mae’n ddymuniad gan bawb i’r berthynas hon gael ei hadfywio a’i chryfhau.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.