Wedi lansio’r ‘Pum Peth Personol’ yn yr ofalaeth ar gychwyn y flwyddyn, bu ein hoedfaon yn canolbwyntio’n bennaf ar fwyd, yr amgylchedd, a’n rôl ni fel eglwysi ac unigolion i fod yn stiwardiaid ffyddlon o’r greadigaeth.

Fel rhan o’r ymgyrch, roedd ein taflen newyddion wythnosol yn cynnwys rysáit bob wythnos, gan ein hannog i beidio gwastraffu bwyd a chreu prydau bwyd o’r cynhwysion sydd eisoes ar gael yn y gegin.

Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru, rydym yn gwastraffu tua 400,000 tunnell o fwyd bob blwyddyn yng Nghymru (2025). Mae hyn yn ein hatgoffa fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i feithrin perthynas iach â bwyd, ac i beidio â chael ein llyncu gan ddiwylliant ein hoes o or-brynu.

Picnic Pum Peth

Yng nghanol cyfnod y Grawys, er nad oedd y tywydd yn berffaith ar gyfer picnic, aethom draw i barc Bryngarw ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. Nod y picnic oedd mynd allan i’r awyr agored, cerdded, a chymryd amser i sylwi ar natur a harddwch creadigaeth Duw. Roedd cyfle i adnabod a sylwi ar sŵn yr adar a rhyfeddu at yr amrywiaeth. Cafwyd ambell ddarlleniad ymhlith y coed, a gweddi wrth y llyn, cyn ymuno â’n gilydd o amgylch y bwrdd ar gyfer picnic ‘Pum Peth’, lle’r oedd pawb wedi dod â’u pecyn bwyd eu hunain. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i gymdeithasu a sgwrsio am fwyd, ond hefyd yn gyfle i fyfyrio ar ein cyfrifoldeb fel Cristnogion i ofalu am y greadigaeth.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.