Fel rhan o raglen Mis Hanes Merched 2026, mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ac Adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad ar-lein arbennig.
Dewch i glywed sgwrs ysbrydoledig gan Nerys Siddall wrth iddi archwilio stori ryfeddol Mary Jones – y ferch ifanc a gerddodd dros ugain milltir yn droednoeth yn 1800 er mwyn prynu Beibl Cymraeg. Daeth ei phenderfyniad a’i dyfalbarhad yn un o straeon ffydd mwyaf grymus Cymru, ac ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl.
Cyflwynir gan: Nerys Siddall, Rheolwr Canolfan Pererin Mary Jones
Cofrestrwch am ddim yma: https://forms.office.com/e/fmtAw1dUAD
Llun: Golygfa uwchben Y Bala / A view above Bala by Ian Medcalf
