Bydd dydd Sul 30ain o Hydref, 2022, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru. 

Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis Adferiad, Cynnal, Enfys, y Stafell Fyw, a chyflenwyr eraill. Mae hefyd yn gyfle  i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw 

Mae pawb ohonom, o bryd i’w gilydd ar lwybr bywyd, yn dyheu am heddwch, neu lonydd – rhag problemau, rhag y pethau sy’n ein caethiwo neu’n bygwth gwneud hynny, weithiau rhag pobl eraill. ‘Gad i mi fod. Gad lonydd i mi.’ Dyna’r mynegiant plaen o’n teimladau ar adegau felly. Ond nid yw ‘heddwch’ yn yr ystyr hwnnw bob tro’n bosibl – ni allwn ddianc rhag sefyllfaoedd, pethau na phobl bob amser, ac, yn wir, gall fod nad dyna’r peth gorau i’w wneud beth bynnag. Ac mae pobl yn rhy aml yn dianc i leoedd nad ydyn nhw’n cynnig rhyddid yn y pen draw, ond caethiwed – megis alcohol a chyffuriau eraill, gamblo, pornograffi. A gwaith – gall cyflwr y ‘gwaithoholig’ fod yn gaethiwed go iawn hefyd. 

Ond fe fedrwn oll weddïo am heddwch dyfnach – am dangnefedd, yr heddwch mewnol, a all fod yn eiddo i ni hyd oed yng nghanol trafferthion a dioddefaint.  

Yn ein gwasanaeth eleni, felly, sydd wedi ei lunio gan Siôn Aled, byddwn yn myfyrio ar feithrin y tangnefedd gwyrthiol hwnnw yn ein bywydau ni ein hunain ac am dywys eraill i brofi’r un iachâd. 

Bydd y gwasanaeth  ar gael i’w lawr lwytho ar ein gwefan: www.cynnal.wales

Dyma unfed Sul ar ddeg Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; gan ofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw. 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.