Cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ystod cyfnod o dywydd crasboeth mis Mehefin yng ngwesty’r Tyrau Abertawe

. Diolch i’r drefn roedd awyru effeithiol yn y gwesty a oedd yn ein gwarchod rhag effeithiau gwaethaf y dymheredd anarferol. Ond roedd camu allan o’r llety i’r awyr agored fel myned i mewn i ffwrn dân. Rhagflas yw’r erthygl hon o’r hyn ddigwyddodd yn yr Undeb ac fe fydd rhagor o ddeunydd yn ymddangos yn Y Tyst yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn rhoi darlun llawnach o gynnwys yr anerchiadau, y trafodaethau a’r cyfarfodydd.
Hoffwn ar y dechrau’n deg ddiolch i bawb fu’n gyfrifol am drefnu’r holl weithgareddau, o staff yr Undeb i’r pwyllgor lleol o dan gadeiryddiaeth Fiona Gannon. Rhedodd y cwbl yn esmwyth o’r lleoliad, y llety, y cyfarfodydd arbennig, y bwyd, y darlledu a’r cludiant. Er nad yw’r Undeb yn ddigwyddiad mor fawr ac y bu, eto, y mae llawer o drefniadau i’w gwneud o flaen llaw. Diolch o galon am y croeso ac am ddarparu mor wych ar gyfer y cynadleddwyr.
Dydd Mercher
Fe’n croesawyd i gyd yn gynnes ar ddechrau’r gynhadledd (24/06) gan y Llywydd y Parchg Owain Llŷr Evans. Diolchwn i Owain am ei lywyddiaeth bwrpasol, trefnus a hwyliog a barodd ein bod yn dilyn yr amserlen yn fanwl. Yna, cychwynnodd y cwbl, fel y dylid, gydag astudiaeth feiblaidd a defosiwn o dan arweiniad y Parchg Beti-Wyn James, Caerfyrddin. Ysbrydolwyd ei myfyrdodau gan ein lleoliad sef gwesty’r Tyrau sydd â thŵr mawr urddasol y tu allan. Aeth â ni i ystyried arwyddocâd tŵr Babel yn Genesis 11:1--9. Gobeithiwn gynnwys crynodeb o’i dau fyfyrdod yn fuan yn Y Tyst.
Bu 3 chyfarfod cyhoeddus arall ar y dydd Mercher. Yn gyntaf, cyflwynodd yr Athro Prys Morgan ddarlith ‘Annibynia yn ei grym: Thomas Rees, Abertawe.’ Dywedodd bod T. Rees yn un o gewri anghofiedig ymneilltuaeth yng Nghymru. Yr ail oedd cyfarfod y Rhwydwaith Heddwch ble traddododd y Prifardd Mererid Hopwood ddarlith yn dwyn y teitl ‘Yr un yw baich gwerin byd. Cofio Waldo.’ Gwnaeth hyn yn ei ffordd ddihafal ei hun yn llawn egni ac ysgolheictod. Yna yn drydydd, aethom i gapel enfawr y Tabernacl, Treforys ar gyfer Cyngerdd Dinas Noddfa a hynny mewn gwres aruthrol. Cymerwyd rhan gan bobl leol yn cynnwys rhai o gymuned yr ymgeiswyr lloches. Cawsom gyfle i ddathlu gyda’n gilydd amrywiaeth y ddynoliaeth mewn undod fel pobl a grëwyd gan Dduw.
Dydd Iau
Bu dydd Iau yn llawn hyd yr ymylon gyda gweithgareddau. Cafwyd adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Elinor Wyn Reynolds, a oedd yn llawn gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac adroddiad y Trysorydd Geraint Rees a bwysleisiai'r angen i ddefnyddio’r arian mewn ffordd fydd yn gwneud ein tystiolaeth yn berthnasol i’r oes bresennol. Buom yn trafod busnes, materion yn ymwneud â hyfforddiant ac yn pleidleisio dros gynigion.

Yn dilyn hyn cafwyd dau gyfarfod cyhoeddus. Yng nghyfarfod y Gymdeithas Hanes traddododd y Prifardd Tudur Dylan ddarlith ar ‘Arglwydd y Cwm ... Golwg ar fywyd a gwaith Eifion Wyn 1867–1926.’ A chyda’r nos aethom i gapel eiriasboeth y Nant ar gyfer oedfa o fawl. Llywyddwyd gan y Parchg Owain Llŷr Evans a chymerwyd rhan gan Nel Richards a’r Parchedigion Gareth Morgan Jones a Jill-Hailey Harries. Traddododd y Parchg Dylan Rhys Parry, Pen-y-bont ar Ogwr bregeth yn dwyn y teitl ‘Prism Gras Duw’.

Dydd Gwener
Agorwyd gweithgareddau’r dydd Gwener gyda defosiwn o dan arweiniad Cyfundeb Gorllewin Morgannwg. Cafwyd darlleniad o’r Beibl a gweddi gan y Parchg Rhys Locke, myfyrdod gan y Parchg Gareth Morgan Jones a deuawd gan Rhys a Siân Meinir. Yna, cafwyd lansiad rhagorol ymgyrch Glandeg gan y Rhwydwaith Merched wedi’i arwain gan Siân Meinir, y Parchg Mererid Mair a’r Parchg Jill-Hailey Harries.
Daeth y gweithgareddau i ben gydag Oedfa’r Llywydd. Llywyddwyd gan Jean Lewis a chafwyd perfformiad gan Brigyn cyn i’r Parchg Owain Llŷr Evans draddodi anerchiad y Llywydd a oedd yn llawn gwreiddioldeb a sylwedd. Bydd crynodeb o’r anerchiad yn fuan yn Y Tyst.
Diolch hefyd i’r rhai fu’n gyfrifol am ffrydio’r cyfarfodydd yn fyw ar sianel Youtube yr Undeb.