Llongyfarchiadau mawr Gadeirydd y Cyngor, Jean Lewis ar gael ei hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod y Garreg Las eleni.

Mae Jean Lewis, Meidrim, yn ffigwr hanfodol ym mywyd cymunedol Tre-lech a thu hwnt, gan roi gwasanaeth diflino i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant.

Trwy ei gwaith gyda'r eglwys, addysg, y Ffermwyr Ifanc a mudiadau cymunedol, mae wedi meithrin hyder cenedlaethau o blant a phobl ifanc ac wedi ennill parch eang.

Fel arweinydd, gwirfoddolwr a Chynghorydd Sir, dengys ymrwymiad dwfn i lesiant cymunedol, bywyd Cristnogol a hyrwyddo'r Gymraeg, gan ei gwneud yn llysgennad rhagorol dros werthoedd yr Orsedd

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.