Chwefror 1 (Mawrth): Ar un ystyr efengylaidd iawn, ni all neb fod ar goll yn y Duwdod. Yr ydym ar goll hebddo. Ynddo Ef yr ydym yn ein Cartref. 

(Allan o Cudd fy Meiau, Pennar Davies) 

Eleni ym mis Rhagfyr rydym yn cofio ei bod yn ddeng mlynedd ar hugain ers marw’r prifathro, yr ysgolhaig, y bardd, y cyfrinydd a’r cyfaill Pennar Davies. 

Ganed William Thomas Davies yn Aberpennar ar 12 Tachwedd 1911, yn un o bump o blant Joseph ac Edith Anne Davies. Bu ei dad yn filwr ac yn löwr, ac o ganlyniad i ddamweiniau yn y pwll bu’n orweddiog am saith mlynedd olaf ei oes. Golygai hyn eu bod yn cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd, a gadawodd y profiad ei ôl ar Pennar Davies trwy gydol ei oes. Er bod ei dad yn gallu’r Gymraeg, Saesneg oedd iaith yr aelwyd gan fod ei fam yn ddi-Gymraeg. Nid oeddent yn deulu crefyddol ac nid oedd Beibl yn y cartref, ond mynychai’r plant ysgol Sul y Bedyddwyr yn y Ffrwd ac yna eglwys yr Annibynwyr Saesneg, Providence. 

Addysg 

Dechreuodd ei ddiddordeb yn y Gymraeg ac yng Nghymru yn ysgol y Dyffryn ac ysgol sir Aberpennar. O’r fan honno aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ym 1929, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Lladin ym 1932 a Saesneg ym 1934. Aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, wedyn, gan wneud gwaith ymchwil ar John Bale (1495–1563), esgob Ossory, ac ennill gradd B.Litt. ym 1938. Yna hwyliodd dros yr Iwerydd i Brifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau gan ennill doethuriaeth am ei waith ymchwil ar George Chapman (?1559–1634) ym 1943. Bu’n Gymrodor Prifysgol Cymru o 1938 i 1940 a bu hefyd yn darllen diwinyddiaeth yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Am gyfnod fe’i galwai ei hun yn agnostig, ond oddeutu 1938 daeth gweddnewidiad i’w fywyd pan ddaeth yn ymwybodol o’r nerthoedd ysbrydol oedd ar waith ym mywyd dyn ac yn y greadigaeth, a gwelodd mai Crist a’i Groes a roddai ystyr i fywyd. 

Gyrfa 

Penderfynodd ymgysegru i’r weinidogaeth Gristnogol, ac wedi iddo orffen yn Rhydychen fe’i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Annibynwyr Saesneg, Minster Road, Caerdydd, ym 1943. Yn yr un flwyddyn priododd â Rosemarie Wolff a chawsant bump o blant, sef Meirion, Rhiannon, Geraint, Hywel ac Owain. 

Ym 1946 fe’i penodwyd yn Athro Hanes yr Eglwys o dan brifathrawiaeth Gwilym Bowyer yng Ngholeg Bala-Bangor, ac ym 1950 symudodd i fod yn is-brifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu. Pan unwyd y sefydliad hwnnw â Choleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn Abertawe ym 1959, penodwyd Pennar Davies yn Brifathro. Daliodd y swydd honno hyd ei ymddeoliad ym 1981. Fel prifathro cododd genedlaethau o bobl i’r weinidogaeth Gristnogol yng Nghymru gan roi hyfforddiant cymwys iddynt. Daliodd swyddi academaidd o bwys, bu’n gefnogwr brwd i Blaid Cymru gan sefyll fel ymgeisydd ddwywaith yn Llanelli, a bu’n Llywydd Undeb yr Annibynwyr am y flwyddyn 1973–74. Dyfarnwyd gradd D.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1987. 

Awdur 

Cyhoeddodd nifer o erthyglau, cerddi a nofelau, yn cynnwys ymhlith eraill Cinio’r Cythraul (1946), ei gyfraniad i Cerddi Cadwgan (1953), Naw Wfft (1957) a’r Efrydd o Lyn Cynon (1961), Rhwng Chwedl a Chredo (1966), a’i nofelau Anadl o’r Ucheldir (1961) a Meibion Darogan (1968), ond erys Cudd fy Meiau (1957) yn un o’i weithiau mwyaf cofiadwy. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn wythnosol yn Y Tyst, wrth y ffugenw, ‘Y Brawd o Radd Isel’. Y mae’r gyfrol ar ffurf dyddiadur blwyddyn lle mae Pennar yn cofnodi ei bererindod ysbrydol. O ddydd i ddydd cofnoda ei deimladau, ei brofiadau, ei sicrwydd a’i amheuon gan agor drws ei enaid i’r darllenydd. Dywed y Dr D. Densil Morgan amdano, ‘Rhwng popeth ef oedd un o lenorion

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch ein newyddlen fisol, Rhwydwaith trwy ebost i gael y newyddion diweddaraf o’r Undeb.