Diolch am gofrestru a mewngofnodi, a chroeso i borth hyfforddiant digidol rhaglen Dysgu a Datblygu Undeb yr Annibynwyr.
Isod, gellir gweld y modiwlau cyfredol sydd ar gael i’w dilyn.
I gwblhau’r modiwl yn gyflawn, mae disgwyl i chi sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
- gwylio pob darlith yn llawn;
- lawrlwytho’r adnoddau PDF, sy’n cynnwys unrhyw nodiadau perthnasol, llyfryddiaeth, a thasg ysgrifenedig y modiwl;
- cwblhau’r dasg ysgrifenedig, a’i chyflwyno i’r Cyfarwyddwr Hyfforddi;
- mynychu’r seminar wyneb yn wyneb nesaf sy’n seiliedig ar y modiwl (manylion isod).
Nid diben yr adnodd hwn yw cynnig hyfforddiant ynysig, ond i gynnig hyfforddiant sy’n gyrraeddadwy i bawb, ac yn hyblyg o ran amserlen. Er mwyn sicrhau eich bod yn cyfarfod â’ch cyd-fyfyrwyr, ac yn cael cyfle i drafod, cynhelir diwrnodau wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn, a bydd disgwyl i bawb fynychu'r dyddiau perthnasol i'ch modiwl er mwyn cwbhau'r modiwlau yn llawn.
Hyderwn y bydd y profiad hwn o ddysgu a datblygu yn brofiad gwerthfawr, adeiladol a bendithiol i chi, ac os am ragor o wybodaeth neu gymorth ar unrhyw bryd, peidiwch ag oedi i gysylltu â mi.
Carwyn Siddall
Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu