Dathlodd Cana ei 200 mlwyddiant yn ddiweddar, ddwy flynedd yn hwyr oherwydd y cyfnod clo.
Agorwyd drysau Cana yn 1821 yn dilyn aberth ac ymdrechion nifer o ffyddloniaid yr ardal i godi capel a fyddai’n gartref i achos yr Annibynwyr a sefydlwyd yn 1820.

Pan adeiladwyd Cana, dewis y bobl oedd gosod ffenestri clir yn yr adeilad fel bod pawb o’r tu allan yn gallu gweld i mewn iddo, ond yn bwysicach fyth, fel bod y sawl sy’n cwrdd y tu mewn i’r adeilad yn gallu gweld allan i’r byd. Er i’r ffyddloniaid gwrdd y tu mewn i Gana ers dwy ganrif, nid gweledigaeth fewnblyg fu gan yr eglwys ar hyd blynyddoedd hir ei hanes. Yn hytrach, gweledigaeth fwy eang o lawer, ac awydd i fod yn offeryn yn llaw Duw i dystiolaethu i’r fro gyfan ac i’r byd. Wrth ddiolch am ddwy ganrif o dystiolaeth, diolchwn fod yr un weledigaeth yn dal i feddiannu calonnau aelodau Cana heddiw.
Mae ffyddloniaid Cana yn dod ynghyd i addoli bob yn ail Sul a bu cydweithio hapus rhwng yr eglwys ac eglwysi eraill yr ofalaeth, sef y Priordy Caerfyrddin ac eglwys MC Bancyfelin. Mae’r ofalaeth wedi tyfu’n ddiweddar i gynnwys eglwysi Elim, Ffynnon-ddrain, a Heol Awst, Caerfyrddin.
Buddsoddwyd mewn sgriniau ar gyfer y capel a’r festri sy’n cyfoethogi’r addoliad. Mae’r ysgol Sul yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cyfrannu’r fawr at fywyd yr eglwys. Mae aelodau o bob oed yn cymryd rhan yn y gymanfa bwnc, Dydd Gweddi’r Byd a Gŵyl Tanio’r Fflam, ac yn manteisio ar bob cyfle posib i gymdeithasu: dros baned wedi oedfa, swper cynhaeaf a pharti Nadolig, cinio dydd Sul yr ofalaeth a phererindod yr ofalaeth. Maent yn cymryd rhan mewn oedfaon yn y cartrefi preswyl lleol yn gyson yng nghwmni ei gweinidog, y Parchg Beti-Wyn James.

Mae Cana’n eglwys Fasnach Deg ac yn cefnogi elusennau yn gyson, megis y banc bwyd lleol, y lloches i fenywod, canolfan galw i mewn Byddin yr Iachawdwriaeth, Cymorth Cristnogol, Vision Aid Overseas ac Oxfam i enwi ond rhai.
Mae Cana wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer bod yn eglwys dementia gyfeillgar diolch i lawlyfr arbennig yr Undeb Heulwen dan Gymylau. Mae arwyddion newydd yn eu lle, y toiledau wedi eu haddasu a phrynhawn arbennig eisoes wedi ei gynnal yn y festri pan wahoddwyd preswylwyr o’r cartrefi gofal lleol atom am baned ac emyn.
Mae’r Ddolen, sef papur Cana yn ymddangos bob mis ac mae gan yr eglwys bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Twitter/X: @Cana-Bancyfelin a Facebook: Capel Cana, ger Bancyfelin.
Wedi dwy ganrif a mwy o dystiolaeth yn y fro, mae yma o hyd gymdeithas glòs a chynnes ac awydd ymysg yr aelodau i dystio i Iesu hyd eithaf eu gallu. Hir y parha hynny.