Mae’r eglwys yn rhan o gyfundeb Meirion. Mae yma le cynnes yng nghalon holl aelodau yr eglwys i’r adeilad arbennig yma.
Yma yng Nghwmain, neu ‘Gwm Annibynia’ yn ôl Huw Evans yn ei glasur o lyfr Cwm Eithin, roedd dwy eglwys gan yr Annibynwyr, gapel Soar yng ngwaelod y cwm a Rhydywernen yn ei ben uchaf.
Mae hanes y capel yn hen iawn. Yma yn 1775 mewn hen dŷ mawn gerllaw oedd yr unig fan o addoli gan yr Annibynwyr rhwng y Bala a Wrecsam. Codwyd y capel newydd yn 1828 ac fe adnewyddwyd yr adeilad yn 1904. Mae cofnod diddorol ar y mur yn nodi i’r Parchg John Griffiths, a fu’n weinidog ar y capel, gael ei ail eni yn 1843 a dywedir fod ei fedd o dan yr arysgrif gan nad oedd mynwent ynghlwm a’r capel hyd 1862, ac yr oedd John Griffiths yn ormod o ymneilltuwr i gael ei gladdu ym mynwent y plwyf. Mae ei ddisgynyddion yn aelodau blaenllaw o’r eglwys hyd heddiw. Canodd y beirdd hefyd eu clod i’r capel. Roedd y Prifardd Gerallt Lloyd Owen yn cofio Rhydywernen ei blentyndod a dyma’r gerdd ‘Rhydywernen’ ganddo:
Y mae capel yng ngwaelod y cof,
megis yn y dechreuad,
pan oedd y mynyddoedd a’r nos
yn dynn amdanom.
Mor glyd oedd muriau gwledig
ein ffydd, fel hen gegin ffarm.
Yno y deuem ar bob rhyw dywydd,
deuem a llaid ein daear
yn ennaint trwm dan ein traed.
Deuem er y gwyddem bob gweddi
o’r frest fyrfyfyr erioed,
pob peswch pwrpasol
yn yr un fan i’r union funud.
Deuem a chanem yn chwil
am fuddugoliaeth, am faeddu gelyn
yr Angau Mawr yng Nghwm Main.
O! fel y canem! Ni chlywem uwchlaw
meirwon hoff am y mur â ni,
ac o Sul i Sul di-sôn,
o adnod i adnod yr oedd y llwydni
yn concro, yn mapio’r mur
a sawr ei deyrnas ar Rydywernen.
Erbyn hyn does dim sôn am lwydni ond gofal tyner sy’n concro ac fel y dywedodd y cyn ysgrifennydd mawr ei ofal o’r capel, y diweddar fardd William Jones Williams, Coed y Bedo wrth gyfarch y ddiweddar Megan Griffiths am ei gwasanaeth hirfaith fel organyddes y capel:
Ar awel o gapel ’rhen gwm – daw sain
Nodau Sul yn fwrlwm,
Alaw a gair yn gwlwm
Rhoi lliw a sglein ar y llwm.
Pump ar hugain o aelodau sydd yn yr eglwys. Byddwn yn cwrdd ddwywaith y mis gydag aelodau eglwys Soar. Gan fod derbyn gwasanaeth cennad yn mynd yn anoddach rydym wedi manteisio ar y dechnoleg fodern ac wedi gosod sgrin yn y pulpud ac erbyn hyn rydym yn derbyn gwasanaethau yn rhithiol. Mae hwn wedi profi yn fenter lwyddiannus iawn.
Mae cyflwr yr adeilad tu mewn ac allan a’r tir a’r fynwent yn rhagorol diolch i lafur caled a chydwybodol rhai o’r aelodau.
Bob blwyddyn byddwn yn trefnu taith i’r aelodau. Wele ddau lun yn dangos yr aelodau tu allan i Amgueddfa Forwrol Nefyn a’r ail lun yn dangos yr aelodau tu allan i gastell Dolbadarn.
Mae’n eglwys hapus a byddwn yn croesawu rhai o’r tu allan i ymuno a ni yn aml ac yn arbennig i’n cyfarfod Diolchgarwch ac i’r gwasanaeth Nadolig.