Mae capel Pen-y-groes mewn ardal amaethyddol, wledig rhyw dair milltir o Grymych, yng nghesail Foel Drygarn ar ochr ddwyreiniol bryniau Preseli. Dathlwyd 250 mlynedd yn 2015 a diolch i Rachel Phillips James am gyfansoddi yr englyn yma ar adeg y dathliadau.
Tŷ Cwrdd Pen-y-groes 1765–2015
Ym Mhen-y-groes fe droes y drain – yn ardd
I hau’r Gair yn gywrain
A dry’r cae, wedi’r cywain,
Yn wledd ar fwrdd Tŷ Cwrdd cain
Ein cyn-weinidogion mwyaf diweddar yw: y Parchedigion O. Morley Lewis, F. M. Jones, E. J. Davies, Aled ap Gwynedd ac Islwyn Selby.

Y presennol
Nid oes gweinidog gennym ar hyn o bryd ond rydym yn ffodus o gael nifer o aelodau sydd yn fodlon cynnal oedfaon ac ry’n ni wedi derbyn bendith mawr o gyd addoli. Mae capel Pen-y-groes yn rhan o ofalaeth sy’n cynnwys capeli Fachendre, Boncath ac Antioch, Crymych. Cyn Covid 19 roeddem yn cynnal un oedfa undebol ar y Sul ac yn symud o un capel i’r llall. Daw tua 25 ar gyfartaledd i’r gwasanaethau.
Yn ystod Covid er bu’r drysau ynghau am ychydig fisoedd ni ballodd yr addoli gan i oedfaon cael eu postio neu e-bostio i aelodau yn wythnosol. Bu’n ffordd hwylus a chynhwysol o dderbyn moddion a chadw cyswllt ac yn hygyrch i bawb. Bellach rydym wedi ailagor.
Y dyfodol
Rydym fel gofalaeth wedi ailgydio yn ein gweithgareddau arferol cyn-Covid fel ymweld a chroesawu eglwysi eraill i gynnal oedfaon gyda ni, ymweld â chartrefi gofal i gynnal oedfaon, mynd ar bererindodau, cynnal gweithgareddau codi arian i elusennau lleol a chenedlaethol ac ailgydio yn ein hoedfa blygain poblogaidd.