Cerdd o obaith gan Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Eleni, mae Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Elinor Wyn Reynolds, am rannu darn o farddoniaeth ar drothwy blwyddyn newydd. 

Yn wyneb y ffaith ein bod ni’n gweld ein byd yn polareiddio’n eithafol a phobl yn mynd benben â’i gilydd yn gwerylgar, mae’n gofyn i ni bob un i fod yn oleuni mewn amseroedd tywyll. Gallwn wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau, yn ein gwlad, a thu hwnt. Mae llais pob un ohonom yn cyfrif ac mae angen clywed y lleisiau o gariad, cyd-fyw, rhannu a brawdgarwch; yn union fel gwnaeth Iesu Grist. Mae pob un ohonom yn byw ar yr un blaned ac mae dechrau blwyddyn yn gyfle i gychwyn eto – er gwell. 

Er bod ein hamserau’n rhai cythryblus, mae Elinor yn obeithiol am y dyfodol ac mae’n dymuno Blwyddyn Newydd Dda i’r byd yn 2026.

 

Cannwyll gynta’r flwyddyn

 

O gynnau cannwyll yng ngwyll blwyddyn newydd,

fe rown ni’n golau gwan i’n gilydd

ac fe rannwn obaith petrus ein taith

heb i ni gychwyn cam arni eto chwaith.

 

Achos wrth ddod i ddiwedd un flwyddyn gron

daw’n amser i ni ddechrau eto o’r bron,

ac yn llewyrch ansicr un cyfle arall

cawn lechen lân i droi byd gwallgo’n gall.

 

Gadewch i ni fod yn newid yn y byd

yn olau canhwyllau ar draws bob stryd,

yn bobl cariad, cymod, a maddau

sydd â’r grym i wneud gwahaniaeth, a goleuo pethau. 

 

Ac ar ddibyn serth yr hen, hen flwyddyn

gan sefyll ar erchwyn un arall, sydd ar fin cychwyn,

yn nhywyllwch ’lastig yr oriau mân meithion

y mae golau ffantastig un gannwyll ein gobeithion. 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.