Mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn ein hannog i sefyll yn erbyn trais (rape and violence) drwy ddangos ein lliwiau, yn llythrennol.
Ym mhob gwlad, mae trais ar sail rhywedd yn realiti trasig. Mae’r trais hwn yn aml yn gudd, ac mae dioddefwyr yn aml yn dawel, gan ofni stigma a thrais pellach.

Mae gennym ni bob un ohonom gyfrifoldeb i siarad yn erbyn trais, i sicrhau bod menywod a dynion, bechgyn a merched, yn ddiogel rhag treisio a thrais mewn cartrefi, ysgolion, gwaith, strydoedd – ym mhob man yn ein cymdeithas. Mae hyn yn broblem real yma yng Nghymru heddiw, a thros y byd hefyd.
Mae’r ymgyrch yn syml ond yn drawiadol. Gwisgwch ddu ar ddydd Iau. Bob dydd Iau. Dyna’r oll. Gallwch wisgo bathodyn i ddatgan eich bod chi’n rhan o’r mudiad byd-eang sy’n gwrthsefyll agweddau ac arferion sy’n caniatáu treisio a thrais. Dangoswch eich parch at fenywod sy’n wydn a chryf yn wyneb anghyfiawnder a thrais. Anogwch eraill i ymuno â chi. Gyda’n gilydd gallwn ddangos nad yw hyn yn dderbyniol a bod angen newid pethau er gwell.
Yn aml, defnyddiwyd du gyda chynodiadau hiliol negyddol, ond yn yr ymgyrch hon, defnyddir du fel lliw cadarnhaol sy’n dangos gwrthsafiad a gwydnwch.
Rhannwch eich lluniau ohonoch chi ac eraill yn eich du gyda ‘Dydd Iau mewn Du’ ar X, Facebook ac Instagram, gan ddefnyddio’r hashnodau #DyddIaumewnDu #ThursdaysinBlack a #WCC!