Dyma fyfyrdod y Llywydd, Owain Llŷr Evans ar gyfer y Sulgwyn eleni, gan ganolbwyntio ar eiriau'r gytgan 'Ysbryd y Tragwyddol Dduw'.
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:
Plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
Peth rhyfedd yw cyfieithu ...
Dyma’r geiriau gwreiddiol Saesneg:
Spirit of the living God, fall a fresh on me ...
Break me, melt me, mould me, fill me;
Spirit of the living God, fall a fresh on me.
Spirit of the living God, fall a fresh on me ... a sylwch ... Break me.
Llawer gwell gennyf y cyfieithiad Cymraeg. Mae’r dyhead ar i Dduw fy nhorri yn anodd i mi dderbyn. Ni allaf ddychmygu Duw yn torri rhywun ar fwriad. Mi wn fod Duw yn adfer yr hyn a dorrwyd ... Mi wn fod Duw yn defnyddio’r hyn a dorrwyd yn gyfryngau bendith. Ond Duw’n torri rhywun ... dwi’n cael hynny’n anodd credu.
Cafodd Iesu ei dorri - torrwyd Ef ar y groes. Gan sefyll wrth droed y groes gwelwn nad oes dim yn ysbrydol, neu ogoneddus am gorff person wedi ei dorri a’i falu. Does neb yn dymuno cael ei dorri.
Ond mae cael ein torri yn brofiad real iawn i bobl - ac mae nifer ohonom yn gwybod yn iawn am gael ein torri. Gwelsom hefyd iachâd, tyfiant a bendith yn dod i’n profiad oherwydd y torri hwnnw. Daw bendith weithiau yn sgil cael ein torri, ond melltith, bob amser, yw cael ein torri. Nid diben ond cyfrwng yw’r profiad o gael ein torri. Cafodd Iesu ei dorri ar y groes nid er mwyn cael ei dorri. Bu farw, nid er mwyn marw. Torrwyd y bara, do, er mwyn ei rhannu, ac o’i rannu daw’n gyfrwng bendith, hedd a chysur. Bu Iesu farw er mwyn byw - er mwyn i ni ddeall beth yw byw go iawn, ac i osod cyfrinach byw bywyd go iawn yng nghledr ein llaw ...
Pan fwy’n teimlo ôl dy law
ar greithiau ‘mywyd i,
fe dardd y gân o dan fy mron
‘rwy’n dy garu, Iôr.