– gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd Rhwydwaith Heddwch yr Annibynwyr Cymraeg.

O’r diwedd mae Benjamin Netanyahu wedi cael ei ffordd. Mae’r rhyfel wedi dechrau ac Ayatollah Ali Khamenei wedi cael ei lofruddio, ynghyd a'i deulu. Mae Netanyahu wedi bod wrthi ers yn agos i 40 mlynedd yn rhoi pwysau ar Unol Daleithiau America i ymosod ar Iran, a gan bod Donald Trump yn ysu am dynnu sylw’r bobol at rywbeth heblaw scandal Epstein, mae wedi ildio i’r pwysau. Dyma ddau gymeriad dieflig yn cydweithio â’i gilydd i gyflawni rhagor o ddrygioni creulon. Llawenhant mewn marwolaeth! Llofruddiwyd 165 o blant mewn ysgol gynradd yn Iran. Am yr eildro maent wedi torri ar draws trafodaethau diplomatyddol er mwyn mynd i ryfel sy'n achosi'r fath gyflafan ar draws y Dwyrain Canol a thu hwnt. Pwy sydd yn mynd i ymddiried yn yr UDA fyth eto?

Cefnogi'r Treiswyr

Beth oedd ymateb Keir Starmer i'r ymosodiadau? Ai condemniad o’r UDA ac Israel am weithredu’n anghyfreithlon? Ai condemniad am ladd plant a phobol diniwed? Na, dim o gwbl. Ymosod a wnaeth ar Iran a’i chondemnio am ‘amddiffyn ei hun’ ac anfon awyrennau a llongau rhyfel i'r rhan yna o'r byd i gefnogi Trump. Onid yw rhagrith y dyn yn ddiarhebol? Rhoddwyd cefnogaeth i’r treiswyr gan Badenoch a Farage hefyd. Mae trachwant llygredig y cyfoethogion grymus yn creu uffern i’r diniwed. Fel y dywed Eseia: ‘Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd; ni wyddant am ffordd heddwch, nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau; y mae eu ffyrdd i gyd yn gam, ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.’ 

Tawelwch Cywilyddus

Dyma bendraw ein tawedogrwydd ni. Wrth gadw’n dawel rydym wedi caniatau i Netanyahu ac Israel a Trump wneud a fynnent yn y Dwyrain Canol ac ar draws y byd. Mae Israel, gyda chefnogaeth ein gwleidyddion, wrthi’n cyflawni hil-laddiad yn Gasa, a nawr wedi bomio Beirut a rhannau eraill o Wlad Libanus gan anfon eu lluodd arfog ar draws y ffin i feddiannu rhan o'r wlad honno.  Trwy hyn oll mae’r mwyafrif ohonom wedi bod yn dawel; tawelwch sy’n cael ei ddehongli fel cefnogaeth gan y treiswyr. Ac er mawr gywilydd mae nifer wedi bod yn cefnogi’r ‘tywallt gwaed gwirion’, yn eu plith nifer sy'n honni eu bod yn dilyn Iesu. Fe allwn ddiolch iddynt fod pris nwy ac olew wedi codi'n aruthrol yn barod ar ôl cau culfor Hormuz i longau, gan gynnwys y llongau LNG anferth sy'n mewnforio 20% o'r nwy sydd ei angen ar Brydain trwy borthladd Aberdaugleddau. 

Rhybudd Iesu

Dyma ddyfyniad i’ch atgoffa o agwedd Iesu '

Nid pawb sy'n dweud wrthyf, 'Arglwydd, Arglwydd', fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, 'Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?' Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, 'Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.'

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.