Mae 36 o eglwysi’n rhan o Gyfundeb Gorllewin Morgannwg ac mae’r ardal yn cynnwys cymoedd Afan, Nedd, Tawe ac Aman a’i chymunedau yn ogystal â’i hunig ddinas, Abertawe.

Bregus yw cyflwr nifer o’r eglwysi ond mae dyfalbarhad a dycnwch yn rhan o’u bod ac mae gwir ymdrech i afael yng nghyfrwy’r dyfodol i sicrhau’r dystiolaeth Gristnogol. Mae gan y cyfundeb bwyllgor gwaith profiadol a gweithgar sy’n trafod materion a chynnal Cyrddau Chwarter, yn eu tro, yn yr eglwysi. Daeth yr ysgrifennydd presennol Gareth Richards i’r swydd, yn 2021 yn dilyn colli Wendy Ellis. 

 Cadeiryddion brwdfrydig

Bu Ann Davies, Bethel, Sgeti yn cysgodi cyfrifoldebau’r ysgrifennydd tra’i bod yn gadeirydd cyn trosglwyddo i Dr Christian Williams, Penclawdd ym mis Mehefin 2022. Yn y cyfnod yma derbyniodd y Cyfundeb rodd hael gan Ebeneser, Cwmtwrch, adeg ei datgorffori, i’w ddefnyddio at gefnogi eglwysi lleol i arloesi. Bu Christian yn arwain yr ymgyrch a gosod canllawiau cadarn gan bwysleisio’r defnydd o’r dechnoleg newydd i gynorthwyo cynulleidfaoedd yn eu hawydd i gofleidio defnydd o’r we fyd-eang, sgriniau teledu ac offer sain i hwyluso’r oedfaon. Yn ogystal anogwyd eglwysi i foderneiddio eu hadeiladau er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd.

Bu’r ymateb yn gadarnhaol iawn gyda cheisiadau niferus am nawdd ar gyfer cyfleusterau ceginau a glanweithdra ynghyd â sgriniau teledu, cyfrifiaduron, offer sain a hysbysfyrddau. Cefnogwyd un ar ddeg prosiect a gwariwyd cyfanswm o £85,000 o gronfa Ebeneser. Bu’r trysorydd gofalus John Williams yn weithgar yn cofnodi a sicrhau cywirdeb yn yr holl weithredoedd. Daeth y meddyg teulu poblogaidd a’r gwleidydd Dr Dai Lloyd i’r gadeiryddiaeth yn 2024 a pharhawyd â’r cynlluniau i gynorthwyo’r eglwysi. 

Hybu llenyddiaeth

Yn dilyn ymweliad y Parchg Aled Davies o Gyngor Ysgolion Sul cefnogwyd cais i gyflwyno cyfrolau i’r eglwysi lleol at ddefnydd yr aelodau wrth baratoi oedfaon. Derbyniodd wyth eglwys y cyfrolau gwerthfawr yma. Diolch i Aled am y fargen! Yn ogystal, er mwyn hyrwyddo gwaith yr Undeb a chefnogi’r Tyst cefnogodd y Cyfundeb ymgyrch i rannu’r wythnosolyn ymysg yr eglwysi. Ddechrau’r flwyddyn derbyniodd deg eglwys gyfanswm o 70 copi o’r Tyst. Tybed a yw’r fenter yma’n syniad i gyfundebau eraill Cymru?

Gweithgarwch

Bu ymweliad Eisteddfod yr Urdd, Dur a Môr â’n hardal yn ysgogiad i ni ddod ynghyd a chefnogi pabell Cyngor Ysgolion Sul ar y maes hyfryd ym Margam. Paratôdd nifer o eglwysi baneli lliwgar yn dangos eu gweithgarwch. Mae Sul y Cyfundeb yn ddigwyddiad mawr yn ein calendr ac yn y blynyddoedd diweddar cynhaliwyd oedfaon o fawl gyda rhai o artistiaid amlwg Cymru. Bu Lleuwen Steffan, Delwyn Siôn a Gwenan Gibbard yn arwain a chafwyd bendith wrth iddynt gynnig tystiolaeth trwy gân a sgwrs. Daeth tymor Dr Dai Lloyd i ben gyda chyflwyniad trawiadol ar ‘Bugeiliaid y Stryd Abertawe’: gwirfoddolwyr sy’n cynnig cymorth i’r bregus ar strydoedd y ddinas ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Maent yno i helpu rhai sy’n dioddef effaith alcohol a chyffuriau, yr isel eu hysbryd a’r digalon. 

Cyfnod newydd i arloesi

Ar ddiwedd y cyflwyniad croesawyd y Parchg Rhys Locke i’r gadeiryddiaeth. Mae Rhys yn weithgar yn y cylchoedd yma ac yn weinidog poblogaidd yn Saron, y Creunant. Mae ei frwdfrydedd dros yr efengyl yn amlwg ac mae’n awyddus i gefnogi holl eglwysi’r Cyfundeb. Ar gychwyn ei dymor trefnwyd Cwrdd Chwarter ym Methesda, Cwrt Sart lle galwyd yr holl eglwysi ynghyd i drafod defnydd o’n cronfa ariannol iach a’n hawydd i gefnogi eglwysi sy’n barod i fentro. Nid yw ‘aros mae’ yn opsiwn ac er gwendid nifer o eglwysi mae’r Cyfundeb yn barod i gynnig arweiniad a chefnogaeth. Yn y cyfarfod gwahoddwyd cynrychiolwyr eglwysi a dderbyniodd nawdd i adrodd ar eu cynlluniau:

Saron, y Creunant sefydlu dosbarth meithrin dwyieithog (Saron Tots) a gwahodd teuluoedd i ymuno. Er y siom cychwynnol, mae bellach yn llwyddiannus iawn. Ar gyfartaledd, mae 15 teulu yn mynychu pob wythnos, ac mae’n le diogel i rieni a babanod. Menywod y capel sydd yn gyfrifol am y fenter. Mae menter newydd hefyd i ddechrau ‘Banc Babanod’ i gefnogi teuluoedd ifanc sydd mewn angen.

Bethesda Cwrt Sart – cyfarfodydd brecwast misol ar y Sadwrn am ddim gyda siaradwyr cyson. Mae hon yn fenter sy’n tyfu wrth i fwy a mwy o bobl leol gefnogi’r cyfarfodydd.

Capel yr Alltwen – sgriniau teledu i arddangos emynau a darluniau yn ystod yr oedfaon.

Wedi hyn rhannwyd y gynulleidfa i dri grŵp i drafod sut y gallai arian nawdd y Cyfundeb fod o werth i’r eglwysi. Wedi ugain munud cafwyd y canlyniadau canlynol:

 

  • Cefnogi eglwysi bregus gyda chostau cynnal a chadw.
  • Ystyried cyflogi gweithiwr ysgogi/hyrwyddo/ieuenctid ar gyfer y Cyfundeb gyfan, grŵp o eglwysi penodol neu eglwys unigol.
  • Ymestyn allan i’r gymuned trwy gynnal digwyddiadau megis clybiau brecwast, clybiau darllen i blant, ciniawau Nadolig.
  • Cynnig cymorth i baratoi taflenni hysbysebu/baneri.

Mae’r gwaith megis dechrau. Rhaid mentro a gwneud defnydd da o’r nawdd a gyflwynwyd i ni.

 

Gareth Richards

Ysgrifennydd

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch ein newyddlen fisol, Rhwydwaith trwy ebost i gael y newyddion diweddaraf o’r Undeb.