Yn ystod 2022 penderfynodd aelodau eglwys Jerusalem Cricieth werthu ein festri. Doedd dim defnydd eglwys heblaw cyfarfodydd achlysurol ein diaconiaid yn digwydd yno ers blynyddoedd.

Roeddem wedi gwerthu’r capel ers tro ac yn cydaddoli efo’r Presbyteriaid yng Nghapel y Traeth.

Mae’r cydweithrediad rhyngom yn arbennig o hapus a gweithgar yn waith yr eglwys. Rydym yn hynod o lwcus fod ein gweinidog y Parchg Iwan Llewelyn Jones yn cynnal y ddwy eglwys felly doedd ddim torri ar ein trefn o addoli ac yn medru cadw ein hannibyniaeth o fewn y capel oedd yn help mawr tuag at ‘setlo’ i drefn newydd.

Rhai o enghreifftiau’r gweithgaredd ar y cyd ydi:

 

Te a thost ar fore Mawrth i’r cyhoedd

Swper Diolchgarwch

Cyfarfodydd y gymdeithas ddiwylliannol

Boreau coffi at achosion da

Cyfarfodydd y Merched

Ymweld ag aelodau’r eglwysi’n fisol

Clwb ieuenctid

Seiat

Ac wrth gwrs, yr ysgol Sul

 

Mae penderfyniad wedi ei wneud gan ein haelodau i wario arian gwerthiant y festri ar achosion da. Fe fydd modd rhannu mwy o’r stori hon gyda chi yn nes ymlaen.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.